xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Yn Rheoliadau mis Ebrill 2020, yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)y gofyniad—
(i)o dan adran 115 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114 o’r Ddeddf honno;
(ii)o dan adran 115B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114A o’r Ddeddf honno;
(iii)o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2) i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan bennaeth gwasanaeth taledig;
(iv)o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;
(v)o dan adran 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;
(vi)o dan adran 25 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(3) i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 22 o’r Ddeddf honno, neu argymhelliad o fewn adran 25(2) o’r Ddeddf honno;
(b)unrhyw ofyniad i gynnal cyfarfod cyn gynted ag y bo’n ymarferol (sut bynnag y mynegir y gofyniad hwnnw).”