xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 69 (Cy. 10)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

28 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ionawr 2020

Yn dod i rym

24 Chwefror 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1), sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

(1)

1973 p. 51; diwygiwyd adran 56(1) gan O.S. 2011/1043, ac mae wedi ei diwygio yn rhagolygol gan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad ac amser sydd i’w bennu.

(2)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).