- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r proffesiynau a ganlyn—
(a)athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified teacher” gan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002(1)) mewn ysgol (fel y’i diffinnir yn adran 14(6) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(2)) yng Nghymru;
(b)pennaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “head teacher” gan adran 135 o Ddeddf Addysg 2002) mewn ysgol (fel y’i diffinnir yn adran 14(6) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014) yng Nghymru.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i broffesiwn athro neu athrawes mewn sefydliad addysg bellach (o fewn yr ystyr a roddir i “further education institution” gan adran 140 o Ddeddf Addysg 2002) yng Nghymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw broffesiwn a reoleiddir o dan Ran 4 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3).
(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a)unrhyw broffesiwn y mae trefniadau penodol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chydnabod cymwysterau proffesiynol wedi eu gwneud mewn perthynas ag ef yn unrhyw Reoliad gan yr UE, unrhyw Gyfarwyddeb gan yr UE, unrhyw benderfyniad gan yr UE neu unrhyw ddeddfwriaeth drydyddol gan yr UE ac mae effaith y trefniadau hynny yn eithrio cymhwyso Cyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 7 Medi 2005 ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol(4);
(b)darpariaeth reoleiddiol broffesiynol i’r graddau y mae’n gweithredu deddfwriaeth yr UE ynghylch rheoleiddio proffesiwn, pan na fo dewis o ran yr union ffordd y mae’r gofynion hynny i’w trosi.
OJ Rhif L 255, 30.9.2005, t. 22, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/55/EU (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 132).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys