xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf 2020—
(a)rheoliad 2;
(b)rheoliad 8;
(c)rheoliad 9 i’r graddau y mae’n gymwys i ofyniad o dan reoliad 8(1);
(d)rheoliadau 12 ac 13 i’r graddau y maent yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre busnes a restrir yn Atodlen 3;
(e)rheoliadau 17 i 22 i’r graddau y maent yn gymwys i dorri (neu achos honedig o dorri) rheoliad 8(1);
(f)rheoliad 3 i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaethau a ganlyn yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(1)—
(i)paragraffau (4) i (6) o reoliad 4 i’r graddau y maent yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1;
(ii)rheoliad 5;
(iii)rheoliad 7A i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan reoliad 4(5B) neu 5(3C) ar berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1;
(iv)rheoliadau 10 i 14 i’r graddau y maent yn gymwys i dorri (neu achos honedig o dorri) rheoliad 4(4) neu 5(3C) gan berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1.
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym at bob diben arall ar 13 Gorffennaf 2020.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;
(b)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—
(i)bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2),
(ii)bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu
(iii)bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3);
(c)mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd yn cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw;
(d)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
(e)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;
(f)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(g)mae i “mangre agored” yr ystyr a roddir gan reoliad 12(3);
(h)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ysytr a roddir yn Neddf Plant 1989(4);
(i)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
(j)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;
(k)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—
(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;
(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;
(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;
(iv)unrhyw blentyn;
(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(5).
(2) At ddibenion y diffiniad o “athletwr elît” ym mharagraff (1)—
(a)nid yw unigolyn wedi ei ddynodi gan Gyngor Chwaraeon Cymru onid yw’r unigolyn wedi ei enwebu am ddynodiad gan gorff camp perthnasol a bod y Cyngor wedi derbyn yr enwebiad, a
(b)ystyr “corff camp perthnasol” yw corff llywodraethu cenedlaethol camp a gaiff enwebu athletwyr i gynrychioli—
(i)Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd neu’r Gemau Paralympaidd, neu
(ii)Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd, a
(b)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(6).
(4) Os yw dwy aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (5) a (7)) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y ddwy aelwyd.
(5) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd rhaid i bob oedolyn yn y ddwy aelwyd gytuno.
(6) Ond—
(a)dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd, a
(b)os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (4) gydag unrhyw aelwyd arall.
(7) Os yw dwy aelwyd wedi cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 maent i’w trin fel pe baent hefyd wedi cytuno i hynny at ddibenion y Rheoliadau hyn.
3.—(1) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(7);
(b)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020(8);
(c)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020(9);
(d)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020(10);
(e)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020(11);
(f)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020(12);
(g)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020(13);
(h)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020(14).
(2) Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
4. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)erbyn 30 Gorffennaf 2020;
(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 31 Gorffennaf;
(c)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
5.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
O.S. 2020/353 (Cy. 80) a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/399 (Cy. 88), O.S. 2020/452 (Cy. 102), O.S. 2020/497 (Cy. 118), O.S. 2020/529 (Cy. 124), O.S. 2020/557 (Cy. 129), O.S. 2020/619 (Cy. 141) ac O.S. 2020/686 (Cy. 153).
1989 p. 41. Gweler Rhan 1 y Ddeddf, lle y gwnaed amryw ddiwygiadau, gan gynnwys gan y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (p. 22) ac O.S. 2019/1458.
2006 c. 47, fel a ddiwygiwyd gan adran 65 o Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).