RHAN 2LL+CCau busnesau a mangreoedd
Yn ddilys o 13/07/2020
Cau bariau a bwytai dan do etc.LL+C
6.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Atodlen 1 gau unrhyw ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall.
(3) Ac mae paragraff (1) yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r angen i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a gwaith arall i sicrhau bod y fangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r busnes.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
Yn ddilys o 13/07/2020
Cau busnesau a gwasanaethau eraillLL+C
7.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Atodlen 2 beidio â chynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd—
(a)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir ym mharagraff 1, 2, 4, 5, 6 neu 12 o Atodlen 2 i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);
(b)o fangre at unrhyw ddiben y caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol ofyn amdano;
(c)o fangre ar gyfer hyfforddi athletwyr elît;
(d)o fangre a ddefnyddir fel amgueddfa neu oriel, neu at ddiben darparu gwasanaethau archif, ar gyfer darparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Ac mae paragraff (1) yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r angen i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a gwaith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r busnes neu’r gwasanaeth.
Cau llety gwyliauLL+C
8.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Atodlen 3 beidio â chynnal y busnes hwnnw.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o fangre—
(a)ar gyfer darparu llety hunangynhwysol,
(b)ar gyfer darparu lleiniau i garafannau hunangynhwysol mewn safleoedd gwyliau neu feysydd pebyll,
(c)at ddibenion busnes a restrir yn Atodlen 1 (ond gweler rheoliad 6), neu
(d)at unrhyw ddiben y caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol ofyn amdano.
(3) Ac mae paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes yn ddarostyngedig i’r angen—
(a)i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(b)i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post;
(c)i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a gwaith arall i sicrhau bod mangre’n addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r busnes.
(4) At ddibenion paragraff (2)—
(a)mae llety yn hunangynhwysol—
(i)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd,
(ii)os yw toiledau a chyfleusterau ymolchi wedi eu darparu mewn cysylltiad â’r llety nad ydynt yn cael eu rhannu ag unrhyw un sy’n aelod o aelwyd arall, a
(iii)os yw cyfleusterau ar gyfer paratoi bwyd neu ddiod, neu fwyta bwyd neu yfed diod wed eu darparu mewn cysylltiad â’r llety ac nid ydynt yn cael eu rhannu ag unrhyw un sy’n aelod o aelwyd arall;
(b)mae carafán yn hunangynhwysol—
(i)os yw’r personau sy’n meddiannu’r garafán yn aelodau o’r un aelwyd,
(ii)os yw’r garafán yn cynnwys ei thoiled a’i chyfleusterau ymolchi ei hun, ac
(iii)os nad yw’r personau sy’n meddiannu’r garafán yn rhannu cyfleusterau ar gyfer paratoi bwyd neu ddiod, neu fwyta bwyd neu yfed diod ar y safle gwyliau neu’r maes pebyll gydag unrhyw un sy’n aelod o aelwyd arall;
(c)mae i “carafán” yr un ystyr â “caravan” yn Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960().
(5) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 3, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(6) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol —
(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu
(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013() yn gymwys iddo.
Busnesau sy’n ffurfio rhan o fusnes mwyLL+C
9. Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”), yn rhinwedd rheoliad 6(1), (7(1) neu 8(1), beidio â chynnal busnes A, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y rheoliad 6(1), 7(1) neu y 8(1) os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A.
Yn ddilys o 13/07/2020
Cau amlosgfeydd a chanolfannau cymunedolLL+C
10.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau bod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan baragraff (2).
(2) Caniateir i’r amlosgfa fod yn agored i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.
(4) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau bod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu—
(a)gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
Yn ddilys o 13/07/2020
Cau rhai llwybrau cyhoeddus a thir mynediadLL+C
11.—(1) Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol —
(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a
(b)ei gadw ar gau tan yr adeg pan fydd yr awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint â’r coronafeirws yn ei ardal.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried —
(a)eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu
(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder neu ledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.
(3) Pan fo llwybr cyhoeddus wedi ei gau o dan—
(a)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(), neu
(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(),
mae’r llwybr i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
(4) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio llwybr cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.
(5) Rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;
(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.
(7) Yn y rheoliad hwn —
(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw —
(i)awdurdod lleol,
(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,
(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu
(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac—
(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr ag â roddir i “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980();
(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “byway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981();
(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000();
(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000().