Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Cau rhai llwybrau cyhoeddus a thir mynediadLL+C

11.—(1Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol —

(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a

(b)ei gadw ar gau tan yr adeg pan fydd yr awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint â’r coronafeirws yn ei ardal.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried —

(a)eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu

(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder neu ledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

(3Pan fo llwybr cyhoeddus wedi ei gau o dan—

(a)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(1), neu

(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2),

mae’r llwybr i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio llwybr cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;

(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.

(7Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw —

(i)awdurdod lleol,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac—

(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr ag â roddir i “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(3);

(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “byway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(4);

(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(5);

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

(3)

1980 p.66. Diwygiwyd adran 329 gan adran 1 Deddf Llwybrau Beiciau 1984 (p. 38) a pharagraff 21 o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p. 54)

(6)

2000 p. 37. Diwygiwyd adran 1(1) gan adran 302(2)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)