Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 13

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/07/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

13.—(1Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 12 roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 13 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)

I2Rhl. 13 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Yn ôl i’r brig

Options/Help