xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 4LL+CYmgynnull gyda phobl eraill

Cyfyngiadau ar gynulliadauLL+C

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)ymgynnull yn yr awyr agored gydag unrhyw berson arall oni bai am—

(i)aelodau o’i aelwyd neu aelodau o ddim mwy nag un aelwyd arall,

(ii)gofalwr iddo, neu

(iii)person y mae’n darparu gofal iddo;

(b)ymgynnull mewn mangre o dan do gydag unrhyw berson arall oni bai am—

(i)aelodau o’i aelwyd,

(ii)gofalwr iddo, neu

(iii)person y mae’n darparu gofal iddo.

(2Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)cael cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 4 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(c)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(d)rhoi gwaed;

(e)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;

(g)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynychu, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(h)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

[F1(ha)mynd i fan addoli;]

(i)bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus F2... neu gael y gwasanaethau hynny F2...

[F3(ja)cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant;]

(k)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(l)symud cartref;

(m)paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;

(n)ymgymryd â’r gweithgareddau a ganlyn mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl nad yw wedi ei feddiannu—

(i)ymweld ag asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr neu gartrefi arddangos;

(ii)gweld eiddo o’r fath;

(o)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.

(4At ddibenion paragraff (2)(n), nid yw eiddo wedi ei feddiannu os nad yw unrhyw berson yn meddiannu’r eiddo fel preswylfa.

(1)

2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).