Eithriad ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi eu trefnu
15.—(1) Er gwaethaf yr ystyr a roddir i “cynulliad” gan reoliad 2(3)(a), nid yw rheoliad 14(1) yn gymwys i unrhyw weithgaredd awyr agored wedi ei drefnu sy’n cynnwys dim mwy na 30 o bersonau.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae gweithgaredd yn “weithgaredd awyr agored wedi ei drefnu”—
(a)os yw’n digwydd yn yr awyr agored,
(b)os yw wedi ei drefnu gan—
(i)busnes,
(ii)corff cyhoeddus, neu sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol,
(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu
(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, ac
(c)os yw’r person sydd yn ei drefnu wedi—
(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(1) pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a
(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 12(2) ac 13(1).
(3) At ddibenion paragraff (2)(c)—
(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;
(b)mae rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai’r man lle y cynhelir y weithgaredd yn digwydd mewn mangre agored y mae’r person sy’n trefnu’r weithgaredd yn gyfrifol amdani.
O.S. 1999/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.