Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae rheoliadau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Daw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 i rym ar 25 Gorffennaf 2020; daw’r rheini a wneir gan reoliad 3 i rym ar 27 Gorffennaf 2020.

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn cynnwys darpariaeth—

(a)sy’n caniatáu i atyniadau tanddaearol i ymwelwyr agor, ond bydd yn ofynnol i’r personau sy’n gyfrifol am y mangreoedd gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd;

(b)sy’n dileu’r gofyniad i gau llety gwyliau nad yw’n hunangynhwysol (ond eto bydd y gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd yn gymwys);

(c)sy’n dileu’r gofyniad a osodwyd ar unigolion i weithio gartref pan fo’n rhesymol ymarferol;

(d)sy’n egluro y caniateir i esgus rhesymol dros ymgynnull â phersonau eraill gynnwys cael gafael ar unrhyw wasanaethau cyhoeddus a gofal plant, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden o dan oruchwyliaeth i blant.

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yn cynnwys darpariaeth—

(a)sy’n caniatáu agor amlosgfeydd (yn llawn), sinemâu dan do, salonau ewinedd a harddwch, parlyrau tylino, sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo, arcedau diddanu, amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau (ond fel uchod, bydd y gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd yn gymwys);

(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n teithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb, yn ddarostyngedig i eithriadau sydd wedi eu rhestru, ac sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi’r ddyletswydd hon;

(c)sy’n llacio’r cyfyngiad ar gynulliadau i ganiatáu ystod ehangach o weithgareddau sy’n ymwneud â gwerthu a gosod eiddo preswyl, megis gweld eiddo sydd wedi ei feddiannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill