Darpariaeth trosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 2LL+C
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 7 Awst 2020—
(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi cyrraedd Cymru o wlad a restrir yn rheoliad 2, neu ar ôl bod mewn gwlad a restrir yn y rheoliad hwnnw, a
(b)fo diwrnod olaf ynysiad P ar 7 Awst 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 2 at Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru ar 7 Awst 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mae’r cwestiwn o ran pa un a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, mewn perthynas â gwlad a restrir yn rheoliad 2, i’w bennu drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad yn wlad nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 6.8.2020 am 11.59 p.m., gweler rhl. 1(2)