xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc(2).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
Mewnosodwyd adran 5(1A) gan baragraff 16 o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).
OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/828 (OJ Rhif L 137, 23.5.2019, t. 12).