Newidiadau dros amser i: Paragraff 11
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/01/2024
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/09/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Statws
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020, Paragraff 11.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[Sylweddau rhestredig a’u meini prawf purdeb (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)LL+C
11.—(1) Dim ond y sylweddau a restrir yn Atodiad III y caniateir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion Atodiadau I a II yn y drefn honno—
(a)ar sylweddau mwynol;
(b)ar fitaminau;
(c)ar asidau amino a chyfansoddion nitrogen eraill; a
(d)ar sylweddau eraill sydd â diben maethol neilltuol.
(2) Rhaid i sylweddau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol yn unol ag is-baragraff (1) fodloni’r meini prawf purdeb perthnasol.
(3) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—
(a)y meini prawf purdeb ar gyfer sylweddau, fel y darperir ar eu cyfer yng nghyfraith yr UE a ddargedwir ynghylch y defnydd o sylweddau a restrir yn Atodiad III, wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion ac eithrio’r rheini a gwmpesir gan y Gyfarwyddeb; a
(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o’r fath, meini prawf purdeb a dderbynnir yn gyffredinol a argymhellir gan gyrff rhyngwladol.]
Yn ôl i’r brig