Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020

[F1Cyfyngiadau ar hyrwyddo fformiwla fabanodLL+C

22.(1) Mewn unrhyw fan lle y gwerthir fformiwla fabanod drwy ei manwerthu ni chaiff unrhyw berson—

(a)hysbysebu unrhyw fformiwla fabanod;

(b)gwneud unrhyw arddangosiad arbennig o fformiwla fabanod sydd wedi ei ddylunio i hyrwyddo gwerthiannau;

(c)rhoi i ffwrdd—

(i)unrhyw fformiwla fabanod fel sampl am ddim; na

(ii)unrhyw gwpon y gellir ei ddefnyddio i brynu fformiwla fabanod ar ddisgownt;

(d)hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod drwy bremiymau, gwerthiannau arbennig, gwerthiannau islaw cost neu werthiannau rhwym; nac

(e)ymgymryd ag unrhyw weithgaredd hyrwyddo arall i gymell gwerthiant o fformiwla fabanod.

(2) Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchwr na dosbarthwr unrhyw fformiwla fabanod ddarparu unrhyw fformiwla fabanod am ddim neu am bris gostyngol neu ar ddisgownt er mwyn ei hyrwyddo, nac unrhyw samplau neu rodd gyda’r bwriad o hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod—

(a)i’r cyhoedd yn gyffredinol;

(b)i fenywod beichiog;

(c)i famau; na

(d)i aelodau o deuluoedd personau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c),

naill ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy’r system gofal iechyd neu drwy weithwyr iechyd.]