- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno, eu haddasu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, ac ym mha fodd y caniateir i’r deddfiadau hynny gael eu haddasu.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r tabl i ychwanegu cofnodion newydd ar gyfer—
adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (dyletswydd i sicrhau darpariaeth ddyladwy addysg grefyddol);
adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 (darparu addysg gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru);
adran 101 o Ddeddf Addysg 2002 (cwricwlwm sylfaenol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru);
adran 109 o Ddeddf Addysg 2002 (gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn ysgolion);
adran 110 o Ddeddf Addysg 2002 (gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin etc); ac
adrannau 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002 (cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4).
Mae’r cofnodion newydd hyn yn nodi’r addasiadau y caniateir eu gwneud i’r deddfiadau hynny drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision y Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys