Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021

Cymuned Tref Pontypridd: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

13.  Yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;

(e)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 13 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 13 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)