Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 1084 (Cy. 258)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed
22 Medi 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Hydref 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “7”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei rannu’n 28 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
Cymuned Bracla: creu wardiau cymunedol
4. Mae cymuned Bracla i’w rhannu’n wardiau fel a ganlyn—
(a)ward Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 1;
(b)ward Canol Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 2;
(c)ward Canol Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 3;
(d)ward Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 4.
Cymuned Bracla: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
5. Yng nghymuned Bracla—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Bracla yw 3;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Bracla yw 3;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Bracla yw 3;
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Bracla yw 3.
Cymuned Porthcawl: newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol
6. Yng nghymuned Porthcawl—
(a)mae’r rhan o ward Notais a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Rest Bay;
(b)mae’r rhan o ward Rest Bay a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Gorllewin Porthcawl;
(c)mae’r rhan o ward Drenewydd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl;
(d)mae’r rhan o ward Canol Gorllewin Porthcawl a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl.
Cymuned Porthcawl: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
7. Yng nghymuned Porthcawl—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Notais yw 3;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Drenewydd yw 3;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Porthcawl yw 3;
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Porthcawl yw 6.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
Erthygl 3
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Tabl
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aberkenfig | Abercynffig | Ward Abercynffig o gymuned Castellnewydd Uchaf a chymuned Llangynwyd Isaf | 1 |
Blackmill | Melin Ifan Ddu | Wardiau Melin Ifan Ddu ac Evanstown o gymuned Cwm Ogwr | 1 |
Brackla East and Coychurch Lower | Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf | Ward Dwyrain Bracla o gymuned Bracla a chymuned Llangrallo Isaf | 2 |
Brackla East Central | Canol Dwyrain Bracla | Ward Canol Dwyrain Bracla o gymuned Bracla | 1 |
Brackla West | Gorllewin Bracla | Ward Gorllewin Bracla o gymuned Bracla | 1 |
Brackla West Central | Canol Gorllewin Bracla | Ward Canol Gorllewin Bracla o gymuned Bracla | 1 |
Bridgend Central | Canol Pen-y-bont ar Ogwr | Wardiau Morfa a Chastellnewydd o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr | 3 |
Bryntirion, Laleston and Merthyr Mawr | Bryntirion, Trelales a Merthyr Mawr | Cymuned Merthyr Mawr, a ward Trelales / Bryntirion o gymuned Trelales | 3 |
Caerau | Caerau | Wardiau Caerau a Nantyffyllon o gymuned Maesteg | 2 |
Cefn-glas | Cefn-glas | Wardiau Cefn-glas 1 a Chefn-glas 2 o gymuned Trelales | 2 |
Coity Higher | Coety Uchaf | Cymuned Coety Uchaf | 3 |
Cornelly | Corneli | Cymuned Corneli | 3 |
Garw Valley | Cwm Garw | Cymuned Cwm Garw | 3 |
Llangynwyd | Llangynwyd | Wardiau Cwmfelin a Phont-rhyd-y-cyff o gymuned Llangynwyd Ganol | 1 |
Maesteg East | Dwyrain Maesteg | Ward Dwyrain Maesteg o gymuned Maesteg | 2 |
Maesteg West | Gorllewin Maesteg | Ward Gorllewin Maesteg o gymuned Maesteg | 2 |
Nant-y-moel | Nant-y-moel | Ward Nant-y-moel o gymuned Cwm Ogwr | 1 |
Newton | Drenewydd | Ward Drenewydd o gymuned Porthcawl | 1 |
Nottage | Notais | Ward Notais o gymuned Porthcawl | 1 |
Ogmore Vale | Bro Ogwr | Ward Bro Ogwr o gymuned Cwm Ogwr | 1 |
Oldcastle | Hengastell | Ward Hengastell o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr | 2 |
Pencoed and Penprysg | Pencoed a Phen-prysg | Cymuned Pencoed a chymuned Llangrallo Uchaf | 3 |
Pen-y-fai | Pen-y-fai | Ward Pen-y-fai o gymuned Castellnewydd Uchaf | 1 |
Porthcawl East Central | Canol Dwyrain Porthcawl | Ward Canol Dwyrain Porthcawl o gymuned Porthcawl | 2 |
Porthcawl West Central | Canol Gorllewin Porthcawl | Ward Canol Gorllewin Porthcawl o gymuned Porthcawl | 1 |
Pyle, Kenfig Hill and Cefn Cribwr | Y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr | Cymunedau Cefn Cribwr a’r Pîl | 3 |
Rest Bay | Rest Bay | Ward Rest Bay o gymuned Porthcawl | 1 |
St Bride’s Minor and Ynysawdre | Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre | Cymunedau Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre | 3 |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Hydref 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 39 i 28, a lleihau nifer y cynghorwyr o 54 i 51.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n amlinellu’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae erthygl 4 yn creu wardiau cymunedol newydd Gorllewin Bracla, Canol Gorllewin Bracla, Canol Dwyrain Bracla a Dwyrain Bracla yng nghymuned Bracla. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer y wardiau newydd hyn.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Notais, Rest Bay, Drenewydd, Canol Gorllewin Porthcawl a Chanol Dwyrain Porthcawl yng nghymuned Porthcawl. Mae erthygl 7 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer wardiau Notais, Drenewydd, Canol Gorllewin Porthcawl a Chanol Dwyrain Porthcawl.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “7” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.