xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1112 (Cy. 267)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

4 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny heb eu haddasu.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).

(4Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ynys Môn;

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys MônLL+C

2.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Ynys Môn, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Ynys Môn wedi ei rhannu’n 14 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2021

Erthygl 2

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
AethwyAethwyCymunedau Llanfair Pwllgwyngyll, Porthaethwy a Phenmynydd3
BodowyrBodowyrCymunedau Llanddaniel-fab, Llanfihangel Ysgeifiog a Llanidan2
Bro AberffrawBro AberffrawCymunedau Aberffraw, Bodorgan a Rhosyr2
Bro’r LlynnoeddBro’r LlynnoeddCymunedau Bodedern, Llanfair-yn-Neubwll a’r Fali2
Canolbarth MônCanolbarth MônCymuned Bodffordd, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean o gymuned Llanddyfnan, a wardiau Cyngar a Thudur o gymuned Llangefni3
CefniCefniCymuned Llangristiolus a ward Cefni o gymuned Llangefni2
CrigyllCrigyllCymunedau Bryngwran, Llanfaelog a Threwalchmai2
LligwyLligwyCymunedau Llaneugrad, Llanfair Mathafarn Eithaf, Moelfre, a Phentraeth, a ward Llanfihangel Tre’r-beirdd o gymuned Llanddyfnan3
Parc a’r MynyddParc a’r MynyddWardiau Parc a’r Mynydd a Phorthyfelin o gymuned Caergybi2
SeiriolSeiriolCymunedau Biwmares, Cwm Cadnant, Llanddona a Llangoed3
TalybolionTalybolionCymunedau Cylch-y-garn, Llannerch-y-medd, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw3
Tref CybiTref CybiWardiau’r Dref, Lôn Llundain a Morawelon o gymuned Caergybi2
TwrcelynTwrcelynCymunedau Amlwch, Llanbadrig, Llaneilian a Rhos-y-bol3
Ynys GybiYnys GybiCymunedau Trearddur a Rhoscolyn a wardiau Kingsland a Maeshyfryd o gymuned Caergybi3

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ynys Môn. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 11 i 14, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 30 i 35.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, heb eu haddasu.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ynys Môn ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Ynys Môn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(4)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.