Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 12 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “12”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei rhannu’n 49 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 y Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Cymuned Cefn: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Yng nghymuned Cefn—

(a)mae’r rhan o ward Acre-fair a Phen-y-bryn a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Plas Madog;

(b)mae’r rhan o ward Cefn a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn;

(c)mae’r rhan o ward Rhosymedre a Chefn Bychan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn.

Cymuned Cefn: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.  Yng nghymuned Cefn—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Acre-fair a Phen-y-bryn yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cefn yw 5;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhosymedre a Chefn Bychan yw 1.

Cymuned Rhosllannerchrugog: newidiadau i wardiau cymunedol

6.  Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—

(a)mae’r rhan o ward Gogledd Ponciau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos;

(b)mae’r rhan o ward De Ponciau a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos.

Cymuned Rhosllannerchrugog: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Johnstown yw 6;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Ponciau yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhos yw 4.

Cymuned Broughton: newidiadau i wardiau cymunedol

8.  Yng nghymuned Broughton—

(a)mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Bryn Cefn;

(b)mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro;

(c)mae’r rhan o ward New Broughton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro.

Cymuned Broughton: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

9.  Yng nghymuned Broughton—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn Cefn yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn-teg yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gwenfro yw 5.

Cymuned Gwersyllt: newidiadau i wardiau cymunedol

10.  Mae’r rhan o ward De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.

Cymuned Gwersyllt: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

11.  Yng nghymuned Gwersyllt—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Gwersyllt yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Gwersyllt yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Gwersyllt yw 5.

Cymuned Parc Caia: newidiadau i wardiau cymunedol

12.  Yng nghymuned Parc Caia—

(a)mae’r rhan o ward Whitegate a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Smithfield;

(b)mae’r rhan o ward Smithfield a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Wynnstay.

Cymunedau Abenbury a Pharc Caia: newidiadau i ffiniau cymunedol

13.  Mae’r rhan honno o gymuned Abenbury a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i gymuned Parc Caia, ac mae’n ffurfio rhan o ward Whitegate o gymuned Parc Caia.

Cymuned Parc Caia: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

14.  Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia yw 3.

Cymuned Offa: newidiadau i wardiau cymunedol

15.  Yng nghymuned Offa—

(a)mae’r rhannau o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi eu trosglwyddo i ward Erddig;

(b)mae’r rhan o ward Brynyffynnon a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Offa;

(c)mae’r rhan o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 12 wedi ei throsglwyddo i ward Brynyffynnon.

Cymuned Offa: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

16.  Yng nghymuned Offa—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hermitage yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Offa yw 5.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2021

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill