xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1126 (Cy. 273)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

Gwnaed

am 3.58 p.m. ar 8 Hydref 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 8 Hydref 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 11 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 11 Hydref 2021.

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 2A

3.—(1Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (ba), ar y diwedd mewnosoder “oni bai bod P yn gallu darparu prawf drwy bàs COVID y GIG”;

(b)yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “ac eithrio pan fo P yn berson a ddisgrifir yn rheoliad 4(2)”.

(3Ym mharagraff (10), yn y diffiniad o “tystysgrif brechlyn”, ar ôl “gwlad berthnasol”, mewnosoder “, ac eithrio gwlad neu diriogaeth Ewropeaidd a restrir yn y tabl ym mharagraff (11) neu Unol Daleithiau America,”.

(4Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

(5Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(13) Pan fo cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig wedi ei weinyddu i berson (“P”) gan berson sy’n gweithredu ar ran y Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu’r brechlyn yn y rhinwedd honno, mae P i’w drin fel pe bai wedi cael y dosau hynny mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), ac mae unrhyw gyfeiriad at berson o wlad berthnasol yn y Rheoliadau hyn i’w ddehongli yn unol â hynny..

Diwygiad i reoliad 6A

4.  Yn rheoliad 6A(5)(b) (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), yn lle’r geiriau ar ôl “yn ddilys” rhodder—

(i)os yw wedi ei ddarparu drwy Dystysgrif COVID Ddigidol yr UE, neu

(ii)os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A..

Diwygiadau i Atodlen 3A

5.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) hepgorer—

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.58 p.m. ar 8 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan gynnwys estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau yn ogystal â rhaglen frechu’r Cenhedloedd Unedig, a gwneud diwygiadau technegol pellach.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n ymwneud â’r dystiolaeth y caniateir ei darparu o brofion cyn ymadael.

Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu amrywiol wledydd o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.