xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1182 (Cy. 293)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

25 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Gorffennaf 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Benfro.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Penfro;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 10 map a farciwyd “Map o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Benfro

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Benfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Benfro wedi ei rhannu’n 59 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Cymuned Aberdaugleddau: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Yng nghymuned Aberdaugleddau—

(a)mae’r rhan o ward Hakin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Aberdaugleddau;

(b)mae’r rhan o ward Hubberston a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hakin;

(c)mae’r rhan o ward Gogledd Aberdaugleddau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Aberdaugleddau.

Cymuned Penfro: newidiadau i wardiau cymunedol

5.  Mae’r rhan o ward gymunedol St Michael o gymuned Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol De St Mary o gymuned Penfro.

Cymuned Penfro: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

6.  Yng nghymuned Penfro—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De St Mary yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward St Michael yw 4.

Cymuned Doc Penfro: diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion a chreu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Bush

7.—(1Mae wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)ward Canol Doc Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 5;

(b)ward Bush a ddangosir â llinellau ar Fap 6.

Cymuned Doc Penfro: diddymu ward gymunedol Pennar a chreu wardiau cymunedol Pennar a Bufferland

8.—(1Mae ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.

(2Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)ward Pennar a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(b)ward Bufferland a ddangosir â llinellau ar Fap 8.

Cymuned Doc Penfro: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

9.  Yng nghymuned Doc Penfro—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bufferland yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bush yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro yw 4;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pennar yw 3.

Cymuned Saundersfoot: creu wardiau cymunedol

10.  Mae cymuned Saundersfoot i’w rhannu i ffurfio’r wardiau cymunedol a ganlyn—

(a)ward Gogledd Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 9;

(b)ward De Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 10.

Cymuned Saundersfoot: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

11.  Yng nghymuned Saundersfoot—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Saundersfoot yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Saundersfoot yw 8.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Amroth and Saundersfoot NorthAmroth a Gogledd SaundersfootCymuned Amroth a ward Gogledd Saundersfoot o gymuned Saundersfoot1
Boncath and ClydauBoncath a ChlydauCymunedau Boncath, Maenordeifi a Chlydau1
BurtonBurtonCymunedau Burton a Rosemarket1
Bro GwaunBro GwaunCymunedau Cwm Gwaun, Cas-mael a Sgleddau1
CamroseCamrosCymuned Camros1
Carew and JeffreystonCaeriw a JeffreystonCymunedau Caeriw a Jeffreyston1
Cilgerran and EglwyswrwCilgerran ac EglwyswrwCymunedau Cilgerran ac Eglwyswrw1
Crymych and Mynachlog-dduCrymych a Mynachlog-dduCymunedau Crymych a Mynachlog-ddu1
East WilliamstonEast WilliamstonCymuned East Williamston1
Fishguard: North EastGogledd-ddwyrain AbergwaunWard Gogledd-ddwyrain Abergwaun o gymuned Abergwaun ac Wdig1
Fishguard: North WestGogledd-orllewin AbergwaunWard Gogledd-orllewin Abergwaun o gymuned Abergwaun ac Wdig1
GoodwickWdigWard Wdig o gymuned Abergwaun ac Wdig1
Haverfordwest: CastleHwlffordd: Y CastellWard y Castell o gymuned Hwlffordd1
Haverfordwest: GarthHwlffordd: GarthWard Garth o gymuned Hwlffordd1
Haverfordwest: PortfieldHwlffordd: PortfieldWard Portfield o gymuned Hwlffordd1
Haverfordwest: PrendergastHwlffordd: PrendergastWard Prendergast o gymuned Hwlffordd1
Haverfordwest: PrioryHwlffordd: Y PriordyWard y Priordy o gymuned Hwlffordd1
HundletonHundletonCymunedau Angle, Hundleton, ac Ystagbwll a Chastellmartin1
JohnstonJohnstonCymuned Johnston1
Kilgetty and BegellyCilgeti a BegeliCymuned Cilgeti/Begeli1
Lampeter VelfreyLlanbedr FelffreCymunedau Llanbedr Felffre a Llanddewi Felffre1
LampheyLlandyfáiCymunedau Cosheston a Llandyfái1
LetterstonTreletertCymunedau Cas-lai, Treletert a Chas-blaidd1
LlangwmLlangwmCymunedau Freystrop, Hook a Llangwm1
LlanrhianLlanrhianCymunedau Llanrhian, Mathri a Phen-caer1
MaenclochogMaenclochogCymunedau Clunderwen, Gorllewin Llandysilio a Maenclochog1
Manorbier and PenallyMaenorbŷr a PhenalunCymunedau Maenorbŷr a Phenalun1
MartletwyMartletwyCymunedau Llanhuadain, Martletwy, ac Uzmaston, Boulston a Slebets1
Merlin’s BridgePont FadlenCymuned Pont Fadlen1
Milford: CentralCanol AberdaugleddauWard Canol Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau1
Milford: EastDwyrain AberdaugleddauWard Dwyrain Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau1
Milford: HakinAberdaugleddau: HakinWard Hakin o gymuned Aberdaugleddau1
Milford: HubberstonAberdaugleddau: HubberstonWard Hubberston o gymuned Aberdaugleddau1
Milford: NorthGogledd AberdaugleddauWard Gogledd Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau1
Milford: WestGorllewin AberdaugleddauWard Gorllewin Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau1
Narberth: UrbanArberth DrefolWard Arberth Drefol o gymuned Arberth1
Narberth: RuralArberth WledigCymuned Tredemel, a ward Arberth Wledig o gymuned Arberth1
Newport and DinasTrefdraeth a DinasCymunedau Dinas a Threfdraeth1
Neyland: EastDwyrain NeylandWard Dwyrain Neyland o gymuned Neyland1
Neyland: WestGorllewin NeylandCymuned Stadwell a ward Gorllewin Neyland o gymuned Neyland1
Pembroke Dock: BushDoc Penfro: BushWard Bush o gymuned Doc Penfro1
Pembroke Dock: CentralCanol Doc PenfroWard Canol Doc Penfro o gymuned Doc Penfro1
Pembroke Dock: MarketDoc Penfro: Y FarchnadWard y Farchnad o gymuned Doc Penfro1
Pembroke Dock: BufferlandDoc Penfro: BufferlandWard Bufferland o gymuned Doc Penfro1
Pembroke Dock: PennarDoc Penfro: PennarWard Pennar o gymuned Doc Penfro1
Pembroke: Monkton and St Mary SouthPenfro: Cil-maen a De St MaryWardiau Cil-maen a De St Mary o gymuned Penfro2
Pembroke: St Mary NorthPenfro: Gogledd St MaryWard Gogledd St Mary o gymuned Penfro1
Pembroke: St MichaelPenfro: St MichaelWard St Michael o gymuned Penfro1
Rudbaxton and SpittalRudbaxton a SpittalCymunedau Rudbaxton a Spittal1
Saundersfoot SouthDe SaundersfootWard De Saundersfoot o gymuned Saundersfoot1
SolvaSolfachCymunedau Breudeth a Solfach1
St David’sTyddewiCymuned Tyddewi1
St DogmaelsLlandudochCymunedau Nanhyfer a Llandudoch1
St Florence and St Mary Out LibertySt Florence a Llanfair Dinbych-y-pysgodCymunedau St Florence a Llanfair Dinbych-y-pysgod1
St Ishmael’sLlanisan-yn-Rhos

Cymunedau Dale, Herbrandston, Marloes a St Brides,

Llanisan-yn-Rhos, Tiers Cross a Chastell Gwalchmai

1
Tenby: NorthGogledd Dinbych-y-pysgodWard Gogledd Dinbych-y-pysgod o gymuned Dinbych-y-pysgod 1
Tenby: SouthDe Dinbych-y-pysgodWard De Dinbych-y-pysgod o gymuned Dinbych-y-pysgod ynghyd ag Ynys Bŷr ac Ynys Farged1
The HavensYr AberoeddCymunedau yr Aberoedd, a Nolton a’r Garn1
WistonCas-wisCymunedau Ambleston, y Mot a Chas-wis1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Benfro. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 60 i 59, ond argymhellwyd bod nifer y cynghorwyr yn parhau yn 60.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Benfro ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Benfro.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir Benfro.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Hakin, Hubberston, Canol Aberdaugleddau, Gogledd Aberdaugleddau a Dwyrain Aberdaugleddau yng nghymuned Aberdaugleddau.

Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol St Michael a De St Mary yng nghymuned Penfro, ac i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Mae erthygl 7 yn diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, ac yn creu wardiau cymunedol newydd Canol Doc Penfro a Bush.

Mae erthygl 8 yn diddymu ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, ac yn creu wardiau cymunedol newydd Pennar a Bufferland.

Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau newydd Bufferland, Bush a Phennar yng nghymuned Doc Penfro, ac yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro.

Mae erthygl 10 yn creu wardiau cymunedol newydd Gogledd Saundersfoot a De Saundersfoot yng nghymuned Saundersfoot. Mae erthygl 11 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Penfro. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Penfro yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.