Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”) mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio ac ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio) er mwyn—

(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 2(2)(a) a (3)(b));

(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 2(2)(b) a (3)(a) ac (c)).

Mae erthygl 1(3) yn darparu, pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022 a’i bod yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2021 ond nad yw wedi gwneud hynny, fod y ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.

Mae erthygl 1(4) yn darparu na fydd y gofyniad i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 25 Ebrill 2022.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 5 i Orchymyn 2016 (dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd) er mwyn—

(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 3(2)(a) a (3));

(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 3(2)(b)).

Mae erthygl 1(5) yn darparu nad yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i:

(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;

(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.