xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1227 (Cy. 309)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021

Gwnaed

2 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.

Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2), 67(4) a (5) o Ddeddf 1972(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(4).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Tachwedd 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym am 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(5).

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn yr amser a’r dyddiad a nodwyd yn erthygl 1(3);

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(6);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 166 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “166”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i harbedwyd, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

(2Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 neu Orchymyn a wnaed o dan adrannau 37(1), 38(1) neu 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(7).

Y Fenni, Llan-ffwyst Fawr, Llanofer a Llandeilo Bertholau — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

3.  Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 1—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanwenarth Citra;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.

4.  Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 2—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Lansdown;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Lansdown.

5.  Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 3—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol y Priordy;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.

6.  Mae’r rhan o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 4—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llan-arth.

7.  Mae’r rhannau o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 5 a Map 6—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol y Castell;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Castell.

Cantref a Llanwenarth Citra — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

8.  Mae’r rhan o ward Cantref o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 7—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.

Cantref a Grofield — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

9.  Mae’r rhan o ward Cantref o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 8—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.

Y Castell a’r Priordy — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

10.  Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 9—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.

Y Castell a Grofield — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

11.  Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 10—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.

Y Priordy a’r Castell — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

12.  Mae’r rhan o ward y Priordy o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 11—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Castell o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Castell.

Y Castell a’r Priordy — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

13.  Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 12—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.

Y Castell — newid enw ward gymunedol

14.  Mae ward y Castell o gymuned y Fenni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 13—

(a)wedi ei hailenwi yn Pen-y-fâl;

(b)yn ffurfio ward etholiadol y Castell.

Y Castell — newid enw ward etholiadol

15.  Mae ward etholiadol y Castell fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Pen-y-fâl.

Y Priordy a Grofield — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

16.  Mae’r rhan o ward y Priordy o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 14—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.

Grofield a Llanwenarth Citra — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

17.  Mae’r rhan o ward Grofield o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 15—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.

Lansdown a’r Priordy — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

18.  Mae’r rhan o ward Lansdown o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 16—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.

Y Priordy — newid enw ward gymunedol

19.  Mae ward y Priordy o gymuned y Fenni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 17—

(a)wedi ei hailenwi yn y Parc;

(b)yn ffurfio ward etholiadol y Priordy.

Y Priordy — newid enw ward etholiadol

20.  Mae ward y Priordy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn y Parc.

Y Fenni — trefniadau etholiadol wardiau cymunedol

21.  Yng nghymuned y Fenni, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Grofield yw 4;

(b)ward Llanwenarth Citra yw 1;

(c)ward y Parc yw 3;

(d)ward Pen-y-fâl yw 3.

Caer-went, Magwyr gyda Gwndy — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

22.  Mae’r rhannau o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 18—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Saint-y-brid;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

Caer-went a Rogiet — newid ffiniau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

23.  Mae’r rhannau o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 19—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Rogiet;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.

Porth Sgiwed a Chaer-went — newid ffiniau cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

24.  Mae’r rhannau o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 20—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Crug;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

Matharn a Chaer-went — newid ffiniau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

25.  Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 21—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Crug;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

Caer-went, Crug, Dinham, Llanfair Disgoed a Saint-y-brid — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

26.  Mae’r rhan o ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 22—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Caer-went o gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

27.  Mae’r rhan o ward Crug o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 23—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Caer-went o gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

28.  Mae’r rhan o ward Crug o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 24—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dinham o gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

29.  Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 25—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dinham o gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

30.  Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 26—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.

Caer-went — trefniadau etholiadol wardiau cymunedol

31.  Yng nghymuned Caer-went, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Caer-went yw 3;

(b)ward Llanfair Disgoed yw 1;

(c)ward Saint-y-brid yw 1.

Caldicot, Porth Sgiwed a Rogiet — newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

32.  Mae’r rhan o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 27—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Hafren;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

33.  Mae’r rhan o gymuned Rogiet a ddangosir â llinellau ar Fap 28—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol West End;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol West End.

34.  Mae’r rhan o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 29—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.

Castell Caldicot, Caldicot Cross, Llanddewi, Green Lane, Hafren, West End a The Village — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

35.  Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 30—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.

36.  Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 31—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward The Village o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

37.  Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 32—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Hafren o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

38.  Mae’r rhan o ward Llanddewi o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 33—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward West End o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol West End.

39.  Mae’r rhan o ward Llanddewi o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 34—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.

40.  Mae’r rhan o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 35—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanddewi o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanddewi.

41.  Mae’r rhan o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 36—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.

42.  Mae’r rhannau o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 37 a Map 38—

(a)wedi eu trosglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

43.  Mae’r rhan o ward Hafren o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 39—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.

44.  Mae’r rhan o ward Hafren o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 40—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

45.  Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 41—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Hafren o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

46.  Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 42—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

47.  Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 43—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.

Creu ward gymunedol newydd The Village a diddymu ward gymunedol Green Lane

48.  Mae ward gymunedol newydd The Village o gymuned Caldicot wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 44;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Hafren.

49.  Mae ward bresennol Green Lane o gymuned Caldicot fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

Creu ward gymunedol newydd Caldicot Cross

50.  Mae ward gymunedol newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 45;

(b)yn ffurfio ward etholiadol Croes Cil-y-coed.

Caldicot — trefniadau etholiadol wardiau cymunedol

51.  Yng nghymuned Caldicot, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Croes Cil-y-coed yw 3;

(b)ward Llanddewi yw 3;

(c)ward Hafren yw 2;

(d)ward The Village yw 2.

Caldicot — trefniadau wardiau etholiadol

52.  Mae ward etholiadol bresennol Green Lane wedi ei diddymu.

53.  Mae ward etholiadol newydd Hafren wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal wardiau cymunedol Hafren a The Village o gymuned Caldicot.

54.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Hafren yw 1.

55.  Mae ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal ward gymunedol Caldicot Cross o gymuned Caldicot.

56.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Croes Cil-y-coed yw 1.

Cas-gwent, Matharn a St Arvans — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

57.  Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 46—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Larkfield;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

58.  Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 47—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Thornwell;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

59.  Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 48—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol St Kingsmark;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

60.  Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 49—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol St Kingsmark;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

Larkfield, St Kingsmark, St Mary’s, St Christophers, Thornwell, Bulwark, Maple Avenue a Mount Pleasant — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

61.  Mae’r rhan o ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 50—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Larkfield o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

62.  Mae’r rhan o ward Larkfield o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 51—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

63.  Mae’r rhan o ward Larkfield o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 52—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol St Mary’s.

64.  Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 53—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Larkfield o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

65.  Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 54—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Thornwell o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

66.  Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 55—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

67.  Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 56—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

68.  Mae’r rhan o ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 57—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

69.  Mae’r rhan o ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 58—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

70.  Mae’r rhan o ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 59—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

71.  Mae’r rhan o ward Thornwell o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 60—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

72.  Mae’r rhan o ward Thornwell o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 61—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

Diddymu ward gymunedol St Christophers a chreu ward gymunedol newydd Bulwark

73.  Mae ward bresennol St Christophers o gymuned Cas-gwent fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu ac mae ward gymunedol newydd Bulwark wedi ei chreu.

74.  Mae ward gymunedol newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau ar Fap 62;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

Creu ward gymunedol newydd Maple Avenue

75.  Mae ward gymunedol newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau ar Fap 63;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.

Creu ward gymunedol newydd Mount Pleasant

76.  Mae ward gymunedol newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 64;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.

St Mary’s — newid enw ward gymunedol

77.  Mae ward bresennol St Mary’s o gymuned Cas-gwent fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 65—

(a)wedi ei hailenwi yn Castell Cas-gwent;

(b)yn ffurfio ward etholiadol newydd Castell Cas-gwent.

Cas-gwent — trefniadau etholiadol wardiau cymunedol

78.  Yng nghymuned Cas-gwent, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Larkfield yw 2;

(b)ward Bulwark yw 4;

(c)ward Castell Cas-gwent yw 3;

(d)ward Maple Avenue yw 1;

(e)ward Mount Pleasant yw 3.

Cas-gwent — trefniadau ward etholiadol

79.  Mae ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau cymunedol Bulwark, Maple Avenue a Thornwell o gymuned Cas-gwent.

80.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Bulwark a Thornwell yw 2.

81.  Mae ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau cymunedol Mount Pleasant, Larkfield a St Kingsmark o gymuned Cas-gwent.

82.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Larkfield a Llangynfarch yw 2.

83.  Mae ward etholiadol St Mary’s wedi ei hailenwi yn Castell Cas-gwent ac mae’n cynnwys ardal ward gymunedol Castell Cas-gwent o gymuned Cas-gwent.

84.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Castell Cas-gwent yw 1.

85.  Mae ward etholiadol St Christophers wedi ei diddymu.

Crucornau, Grysmwnt ac Ynysgynwraidd — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

86.  Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 66—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Grysmwnt;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llangatwg Lingoed;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.

87.  Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 67—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Crucornau a Llanfihangel Crucornau — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

88.  Mae’r rhan o ward Llanfihangel Crucornau o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 68—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Pandy o gymuned Crucornau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.

Creu ward gymunedol newydd Cwm-iou

89.  Mae ward newydd Cwm-iou wedi ei chreu yng nghymuned Crucornau sydd—

(a)yn cynnwys ardaloedd cyfun wardiau Cwm-iou Uchaf a Chwm-iou Isaf o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 69;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.

Creu ward gymunedol newydd Pandy

90.  Mae ward gymunedol newydd Pandy wedi ei chreu yng nghymuned Crucornau sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 68;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.

Crucornau — trefniadau etholiadol ward gymunedol

91.  Yng nghymuned Crucornau, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Cwm-iou yw 1;

(b)ward Fforest a Ffwddog yw 1;

(c)ward Llanfihangel Crucornau yw 2;

(d)ward Pandy yw 2.

Devauden, Drenewydd Gelli-farch, St Arvans a Thyndyrn — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

92.  Mae’r rhan o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 70—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Devauden;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.

93.  Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 71—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddinol;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.

94.  Mae’r rhan o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 72—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddinol;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.

95.  Mae’r rhan o gymuned Devauden a ddangosir â llinellau ar Fap 73—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned St Arvans;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.

Devauden a Llanfihangel Wolvesnewton — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

96.  Mae’r rhan o ward Llanfihangel Wolvesnewton o gymuned Devauden a ddangosir â llinellau ar Fap 74—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Devauden o gymuned Devauden;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.

Llanfihangel Wolvesnewton — newid enw ward gymunedol

97.  Mae ward bresennol Llanfihangel Wolvesnewton o gymuned Devauden fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 75—

(a)wedi ei hailenwi yn Llanfihangel Tor-y-Mynydd;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.

Devauden — trefniadau etholiadol cymunedol

98.  Yng nghymuned Devauden, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Cilgwrrwg yw 1;

(b)ward Llanfihangel Tor-y-Mynydd yw 1.

Goetre Fawr, Llanofer a Llanbadog — newidiadau i ffiniau cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

99.  Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 76—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Goetre Fawr;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Llanofer;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

100.  Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 77—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Goetre Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Nant-y-Deri;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

101.  Mae’r rhan o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 78—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanbadog;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Monkswood;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanbadog.

102.  Mae’r rhan o ward gymunedol Mamhilad o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 79—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanbadog;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Little Mill;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanbadog.

Goetre Fawr, Mamhilad a Nant-y-Deri — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

103.  Mae’r rhan o ward Goetre Fawr o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau a’r rhif 1 ar Fap 80—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Nant-y-Deri o gymuned Goetre Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

104.  Mae’r rhan o ward Goetre Fawr o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau a’r rhif 1 ar Fap 81—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Mamhilad o gymuned Goetre Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

Goetre — newid enw ward gymunedol

105.  Mae ward bresennol Goetre o gymuned Goetre Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 82—

(a)wedi ei hailenwi yn Goetre Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

Mamhilad — newid enw ward gymunedol

106.  Mae ward bresennol Mamhilad o gymuned Goetre Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau, ac a rifwyd 1 a 2 ar Fap 81—

(a)wedi ei hailenwi yn Goetre Wharf;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

Creu ward gymunedol newydd Nant-y-Deri

107.  Mae ward gymunedol newydd Nant-y-Deri wedi ei chreu yng nghymuned Goetre Fawr sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau, a rifwyd 1 a 2 ar Fap 80;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.

Goetre Fawr — trefniadau etholiadol cymunedol

108.  Yng nghymuned Goetre Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Goetre Wharf yw 2;

(b)ward Goetre Fawr yw 4;

(c)ward Llanofer yw 1;

(d)ward Nant-y-Deri yw 1.

Grysmwnt ac Ynysgynwraidd — newid ffin gymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

109.  Mae’r rhan o gymuned Grysmwnt a ddangosir â llinellau ar Fap 83—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Grysmwnt a Llangua — newid ffiniau ward gymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

110.  Mae ward Llangua o gymuned Grysmwnt a ddangosir â llinellau ar Fap 84—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grysmwnt o gymuned Grysmwnt;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.

Diddymu ward gymunedol Llangua

111.  Mae ward bresennol Llangua o gymuned Grysmwnt fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

Grysmwnt — trefniadau etholiadol cymunedol

112.  Yng nghymuned Grysmwnt, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Grysmwnt yw 6.

Gwehelog Fawr, Llan-arth a Rhaglan — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

113.  Mae’r rhannau o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 85 a Map 86—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Llan-arth;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Cemais Comawndwr a Llancayo;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.

114.  Mae’r rhan o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 87—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Gwehelog;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.

115.  Mae’r rhan o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 87—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llandenni;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.

Gwehelog Fawr — diddymu cymuned a newid canlyniadol i gyngor cymuned

116.—(1Mae cymuned bresennol Gwehelog Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

(2Mae cyngor cymuned Gwehelog Fawr wedi ei ddiddymu.

Llan-arth, Llanofer, Rhaglan a Chastell-gwyn — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

117.  Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 88—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Llanfable;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.

118.  Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 89—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.

119.  Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 90—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llan-arth;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llan-arth;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Gobion Fawr.

120.  Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 91—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Pen-rhos;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

121.  Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 92—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Rhaglan;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.

122.  Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 93—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Rhaglan;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.

Llan-arth a Chleidda — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

123.  Mae’r rhan o ward Cleidda o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 94—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llan-arth o gymuned Llan-arth;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.

Llan-arth — trefniadau etholiadol cymunedol

124.  Yng nghymuned Llan-arth, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Bryngwyn yw 2;

(b)ward Cleidda yw 1;

(c)ward Cemais Comawndwr a Llancayo yw 2;

(d)ward Llan-arth yw 3.

Llanbadog — trefniadau etholiadol cymunedol

125.  Yng nghymuned Llanbadog, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Glasgoed yw 2;

(b)ward Little Mill yw 3;

(c)ward Llanbadog yw 2;

(d)ward Monkswood yw 2.

Llanelli a Llan-ffwyst Fawr — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

126.  Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 95—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanelli;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Gilwern;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.

Clydach a Gilwern — newid ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

127.  Mae’r rhan o ward Gilwern o gymuned Llanelli a ddangosir â llinellau ar Fap 96—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Clydach o gymuned Llanelli;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.

128.  Mae’r rhan o ward Clydach o gymuned Llanelli a ddangosir â llinellau ar Fap 97—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Gilwern o gymuned Llanelli;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.

Llanelli — trefniadau etholiadol cymunedol

129.  Yng nghymuned Llanelli, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Gilwern yw 9.

Bryn Llanelli — newid enw ward etholiadol

130.  Mae ward etholiadol Bryn Llanelli fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Llanelli.

Llan-ffwyst Fawr a Llanofer — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

131.  Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 98—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llan-ffwyst Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanelen;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llan-ffwyst Fawr.

Llan-ffwyst a Llanwenarth Tu Draw — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol

132.  Mae’r rhan o ward Llan-ffwyst o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 99—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Tu Draw o gymuned Llan-ffwyst Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanwenarth Tu Draw.

Llanwenarth Tu Draw — newid enw ward gymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol

133.  Mae ward bresennol Llanwenarth Tu Draw o gymuned Llan-ffwyst Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 100—

(a)wedi ei hailenwi yn ward gymunedol Gofilon;

(b)yn ffurfio ward etholiadol Llanwenarth Tu Draw.

Llan-ffwyst Fawr — trefniadau etholiadol cymunedol

134.  Yng nghymuned Llan-ffwyst Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Llan-ffwyst yw 5;

(b)ward Gofilon yw 6.

Llanwenarth Tu Draw — newid enw ward etholiadol

135.  Mae ward etholiadol bresennol Llanwenarth Tu Draw fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Gofilon.

Llangybi a Llanhenwg — cyfuno cymunedau a newid canlyniadol i gynghorau cymuned a threfniadau etholiadol

136.—(1Mae ardaloedd cymunedau Llangybi a Llanhenwg fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 101 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llangybi, sy’n ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.

(2Mae cynghorau cymuned Llangybi a Llanhenwg wedi eu diddymu.

Llangybi — creu cyngor cymuned a threfniadau etholiadol cymunedol

137.  Mae cyngor ar gyfer cymuned Llangybi wedi ei sefydlu.

138.  Mae cymuned Llangybi yn cynnwys chwe ward—

(a)Coed-y-paen;

(b)Llandegfedd;

(c)Llangattock Nigh Caerleon;

(d)Llangybi;

(e)Llanhenwg;

(f)Tredynog.

139.  Yng nghymuned Llangybi, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Coed-y-paen yw 1;

(b)ward Llandegfedd yw 1;

(c)ward Llangattock Nigh Caerleon yw 1;

(d)ward Llangybi yw 3;

(e)ward Llanhenwg yw 1;

(f)ward Tredynog yw 1.

Llanofer a Llan-arth — newid ffiniau cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

140.  Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 102—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Llanofer.

Llanofer — newid enw cymuned

141.  Mae cymuned bresennol Llanofer fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 103—

(a)wedi ei hailenwi yn Gobion Fawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.

Gobion Fawr — trefniadau etholiadol cymunedol

142.  Mae cymuned Gobion Fawr yn cynnwys pedair ward—

(a)Llanddewi Rhydderch;

(b)Llanfair Cilgydyn;

(c)Llangattock-nigh-Usk;

(d)Llanfable.

143.  Yng nghymuned Gobion Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Llanddewi Rhydderch yw 2;

(b)ward Llanfair Cilgydyn yw 1;

(c)ward Llangattock-nigh-Usk yw 3;

(d)ward Llanfable yw 1.

Llanofer — newid enw ward etholiadol

144.  Mae ward etholiadol Llanofer fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Gobion Fawr.

Dwyrain Croesonnen, Gorllewin Croesonnen a Gorllewin Ysgyryd — newid ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

145.  Mae’r rhan o ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 104—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.

146.  Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 105—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.

147.  Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 106—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.

Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen — cyfuno wardiau cymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol

148.  Mae wardiau presennol Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 107—

(a)wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Croesonnen;

(b)yn ffurfio ward etholiadol Croesonnen.

Croesonnen a’r Maerdy — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol

149.  Mae’r rhan o ward y Maerdy o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 108—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.

Y Maerdy a Gorllewin Ysgyryd — newid ffin ward gymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol

150.  Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 109—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Maerdy o gymuned Llandeilo Bertholau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.

Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd — cyfuno wardiau a newid canlyniadol i ward etholiadol

151.  Mae wardiau presennol Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 110—

(a)wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.

Llandeilo Bertholau — trefniadau etholiadol cymunedol

152.  Yng nghymuned Llandeilo Bertholau, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Croesonnen yw 6;

(b)ward Ysgyryd yw 2.

Llantrisant Fawr a Llan-gwm — cyfuno cymunedau a newidiadau canlyniadol i gynghorau cymuned a threfniadau etholiadol

153.  Mae’r ardaloedd o gymunedau presennol Llantrisant Fawr a Llan-gwm fel y’u dangosir â llinellau ar Fap 111 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llantrisant Fawr.

154.  Mae’r ardaloedd o wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.

155.  Mae’r ardaloedd o wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.

156.  Mae cynghorau cymuned Llantrisant Fawr a Llan-gwm wedi eu diddymu.

Llantrisant Fawr — creu cyngor cymuned a threfniadau etholiadol cymunedol

157.  Mae cyngor ar gyfer cymuned Llantrisant Fawr wedi ei sefydlu.

158.  Mae cymuned Llantrisant Fawr yn cynnwys pedair ward—

(a)Gwernesni;

(b)Llan-gwm;

(c)Llan-soe;

(d)Llantrisant.

159.  Yng nghymuned Llantrisant Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Gwernesni yw 1;

(b)ward Llan-gwm yw 3;

(c)ward Llan-soe yw 1;

(d)ward Llantrisant yw 3.

Magwyr gyda Gwndy — newid ffiniau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

160.  Mae’r rhan o ward Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 112—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.

161.  Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 113—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.

162.  Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 114—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.

Dwyrain Magwyr, Gorllewin Magwyr, Gwndy, Denny, Mill, Salisbury a The Elms — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

163.  Mae’r rhan o ward Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 115—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr.

164.  Mae’r rhan o ward Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 116—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.

165.  Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 117—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Gorllewin Magwyr.

166.  Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 118—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.

167.  Mae’r rhan o ward Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 119—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr.

168.  Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 120—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.

169.  Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 121—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.

Diddymu wardiau cymunedol Denny, Mill, Salisbury a The Elms

170.  Mae ward bresennol Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

171.  Mae ward bresennol Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

172.  Mae ward bresennol Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

173.  Mae ward bresennol The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

Creu ward gymunedol newydd Gorllewin Magwyr

174.  Mae ward gymunedol newydd Gorllewin Magwyr wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—

(a)yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fapiau 115, 117 a 119;

(b)yn ffurfio ward etholiadol Gorllewin Magwyr.

Creu ward gymunedol newydd Dwyrain Magwyr

175.  Mae ward gymunedol newydd Dwyrain Magwyr wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—

(a)yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fapiau 116, 118 a 121;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dwyrain Magwyr.

Creu ward gymunedol newydd Gwndy

176.  Mae ward gymunedol newydd Gwndy wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—

(a)yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fap 120;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dwyrain Magwyr.

Magwyr gyda Gwndy — trefniadau etholiadol cymunedol

177.  Mae cymuned Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys tair ward—

(a)Dwyrain Magwyr;

(b)Gorllewin Magwyr;

(c)Gwndy.

178.  Yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Dwyrain Magwyr yw 4;

(b)ward Gorllewin Magwyr yw 3;

(c)ward Gwndy yw 3.

Diddymu wardiau etholiadol Mill a The Elms a chreu wardiau etholiadol newydd Dwyrain Magwyr a Gorllewin Magwyr a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

179.  Mae ward etholiadol bresennol Mill fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

180.  Mae ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy.

181.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Magwyr yw 2.

182.  Mae ward etholiadol bresennol The Elms wedi ei diddymu.

183.  Mae ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal ward Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy.

184.  Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Magwyr yw 1.

Matharn, Mounton a Phwllmeurig — newid ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

185.  Mae’r rhan o ward Mounton o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 122—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Pwllmeurig o gymuned Matharn;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.

Matharn — trefniadau etholiadol cymunedol

186.  Yng nghymuned Matharn, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Matharn yw 3.

Llanfihangel Troddi, Trefynwy, Rhaglan a Chastell-gwyn — newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

187.  Mae’r rhan o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 123—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel Troddi;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Pen-y-clawdd;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanfihangel Troddi.

188.  Mae’r rhan o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 124—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel Troddi;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Tre’r-gaer;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanfihangel Troddi.

189.  Mae’r rhan o gymuned Llanfihangel Troddi a ddangosir â llinellau ar Fap 125—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Overmonnow;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Overmonnow.

190.  Mae’r rhan o gymuned Llanfihangel Troddi a ddangosir â llinellau ar Fap 126—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Llanfihangel Troddi — trefniadau etholiadol cymunedol

191.  Yng nghymuned Llanfihangel Troddi, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Cwmcarfan yw 1;

(b)ward Llanfihangel Troddi yw 2;

(c)ward Pen-y-clawdd yw 1.

Trefynwy a Chastell-gwyn — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

192.  Mae’r rhan o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 127—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Dixton gydag Osbaston, Drybridge, Overmonnow a’r Dref — newidiadau i ffiniau ward gymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

193.  Mae’r rhan o ward y Dref o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 128—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dixton gydag Osbaston.

194.  Mae’r rhan o ward Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 129—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.

195.  Mae’r rhan o ward y Dref o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 130—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Drybridge o gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.

196.  Mae’r rhan o ward Drybridge o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 131—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Overmonnow o gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Overmonnow.

197.  Mae’r rhan o ward Drybridge o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 132—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.

198.  Mae’r rhan o ward Overmonnow o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 133—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.

Dixton gydag Osbaston - newid enw ward gymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol

199.  Mae ward bresennol Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 134—

(a)wedi ei hailenwi yn Osbaston;

(b)yn ffurfio ward etholiadol Dixton gydag Osbaston.

Dixton gydag Osbaston - newid enw ward etholiadol

200.  Mae ward etholiadol Dixton gydag Osbaston fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Osbaston.

Trefynwy — trefniadau etholiadol ward gymunedol

201.  Yng nghymuned Trefynwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Drybridge yw 4;

(b)ward Osbaston yw 4;

(c)ward Overmonnow yw 3;

(d)ward y Dref yw 4.

Trefynwy — trefniadau ward etholiadol

202.  Yng nghymuned Trefynwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Drybridge yw 2.

Porth Sgiwed, Leechpool a Phentref Porth Sgiwed — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

203.  Mae’r rhan o ward Leechpool o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 135—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Pentref Porth Sgiwed o gymuned Porth Sgiwed;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Porthsgiwed.

Rhaglan, Llandenni a Chyncoed — newid ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

204.  Mae’r rhan o ward Llandenni o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 136—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Cyncoed o gymuned Rhaglan;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.

Creu ward gymunedol newydd Cyncoed

205.  Mae ward newydd Cyncoed o gymuned Rhaglan wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 136;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.

Rhaglan — trefniadau etholiadol cymunedol

206.  Yng nghymuned Rhaglan, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Gwehelog yw 1;

(b)ward Cyncoed yw 1;

(c)ward Llandenni yw 1;

(d)ward Rhaglan yw 6.

Rogiet — newid i drefniadau etholiadol cymunedol

207.  Yng nghymuned Rogiet, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros Rogiet yw 7.

Drenewydd Gelli-farch a St Arvans — newid ffin gymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

208.  Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 137—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Drenewydd Gelli-farch;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.

Earlswood, Mynydd-bach, Yr Eglwys Newydd ar y Cefn a Drenewydd Gelli-farch — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

209.  Mae’r rhan o ward Earlswood o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 138—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.

210.  Mae’r rhan o ward Drenewydd Gelli-farch o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 139—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.

Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn — cyfuno wardiau cymunedol

211.  Mae ardal ward bresennol Earlswood o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno ag ardal ward bresennol yr Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward gymunedol newydd Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 140.

Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach — cyfuno wardiau cymunedol

212.  Mae ardal ward bresennol Drenewydd Gelli-farch o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno ag ardal ward bresennol Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward gymunedol newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 141.

Drenewydd Gelli-farch — trefniadau etholiadol cymunedol

213.  Yng nghymuned Drenewydd Gelli-farch, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn yw 2;

(b)ward Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yw 5.

St Arvans a Thyndyrn — newid ffin gymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

214.  Mae’r rhan o ward Penterry o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 142—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned St Arvans;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.

St Arvans — trefniadau etholiadol cymunedol

215.  Yng nghymuned St Arvans, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros Lanarfan yw 7.

Tyndyrn a Thryleg Unedig — newid ffin gymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

216.  Mae’r rhan o gymuned Tryleg Unedig a ddangosir â llinellau ar Fap 143—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tyndyrn;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Llandogo;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.

217.  Mae’r rhan o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 144—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tryleg Unedig;

(b)yn ffurfio ward gymunedol Plasdy Tryleg;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Tryleg Unedig.

Tyndyrn — newid enw cymuned

218.  Mae cymuned bresennol Tyndyrn fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 145—

(a)wedi ei hailenwi yn Dyffryn Gwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.

Allt y Capel a Penterry — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

219.  Mae’r rhan o ward Penterry o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 146—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Allt y Capel o gymuned Dyffryn Gwy;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.

Allt y Capel a Thyndyrn Parva — cyfuno wardiau cymunedol

220.  Mae ward bresennol Allt y Capel o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno â ward bresennol Tyndyrn Parva o gymuned Dyffryn Gwy i ffurfio ward gymunedol newydd Tyndyrn o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 147.

Diddymu ward gymunedol Penterry

221.  Mae ward bresennol Penterry o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

Dyffryn Gwy — trefniadau etholiadol cymunedol

222.  Yng nghymuned Dyffryn Gwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Llandogo yw 3;

(b)ward Tyndyrn yw 4.

Tryleg Unedig, Llanisien a Thref Tryleg — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i wardiau etholiadol

223.  Mae’r rhan o ward Llanisien o gymuned Tryleg Unedig a ddangosir â llinellau ar Fap 148—

(a)wedi ei throsglwyddo i ward Tref Tryleg o gymuned Tryleg Unedig;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Tryleg Unedig.

Tryleg Unedig — trefniadau etholiadol cymunedol

224.  Yng nghymuned Tryleg Unedig, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Pen-allt yw 3;

(b)ward Tref Tryleg yw 3;

(c)ward Plasdy Tryleg yw 1.

Ynysgynwraidd — creu cymuned newydd

225.  Mae cymuned newydd Ynysgynwraidd wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 149;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Ynysgynwraidd, Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni — newid ffin gymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

226.  Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Gresynni a ddangosir â llinellau ar Fap 150—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Cross Ash;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

227.  Mae’r rhan o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 151—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

228.  Mae’r rhan o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 152—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Cross Ash;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Cross Ash

229.  Mae ward gymunedol newydd Cross Ash wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 153;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Llanwytherin

230.  Mae ward gymunedol newydd Llanwytherin wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 154;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd

231.  Mae ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 155;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Ynysgynwraidd — creu cyngor cymuned a threfniadau etholiadol cymunedol

232.  Mae cyngor ar gyfer cymuned Ynysgynwraidd wedi ei sefydlu.

233.  Mae cymuned Ynysgynwraidd yn cynnwys tair ward—

(a)Cross Ash;

(b)Llanwytherin;

(c)Ynysgynwraidd.

234.  Yng nghymuned Ynysgynwraidd, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Cross Ash yw 3;

(b)ward Llanwytherin yw 2;

(c)ward Ynysgynwraidd yw 2.

Castell-gwyn — creu cymuned newydd

235.  Mae cymuned newydd Castell-gwyn wedi ei chreu sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 156;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Castell-gwyn, Llandeilo Gresynni a Llangatwg Feibion Afel — newid ffin gymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

236.  Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Gresynni a ddangosir â llinellau ar Fap 157—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Castell-gwyn;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Castell-gwyn;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

237.  Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 158—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Castellnewydd;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

238.  Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 159—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;

(b)mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;

(c)mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;

(d)mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;

(e)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

239.  Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 160—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;

(b)mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;

(c)mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;

(d)mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;

(e)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel

240.  Mae ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 161;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern

241.  Mae ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 162;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Castellnewydd

242.  Mae ward gymunedol newydd Castellnewydd wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 163;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Pen-rhos

243.  Mae ward gymunedol newydd Pen-rhos wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 164;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha

244.  Mae ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 165;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Creu ward gymunedol newydd Castell-gwyn

245.  Mae ward gymunedol newydd Castell-gwyn wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—

(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 166;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.

Castell-gwyn — creu cyngor cymuned a threfniadau etholiadol cymunedol

246.  Mae cyngor ar gyfer cymuned Castell-gwyn wedi ei sefydlu.

247.  Mae cymuned Castell-gwyn yn cynnwys chwe ward—

(a)Llangatwg Feibion Afel;

(b)Llanfihangel Ystum Llewern;

(c)Castellnewydd;

(d)Pen-rhos;

(e)Rockfield a Llanfocha;

(f)Castell-gwyn.

248.  Yng nghymuned Castell-gwyn, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—

(a)ward Llangatwg Feibion Afel yw 1;

(b)ward Llanfihangel Ystum Llewern yw 1;

(c)ward Castellnewydd yw 2;

(d)ward Pen-rhos yw 2;

(e)ward Rockfield a Llanfocha yw 3;

(f)ward Castell-gwyn yw 2.

Llangatwg Feibion Afel — diddymu cymuned a newid canlyniadol i gyngor cymuned

249.—(1Mae cymuned bresennol Llangatwg Feibion Afel fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

(2Mae cyngor cymuned Llangatwg Feibion Afel wedi ei ddiddymu.

Llandeilo Gresynni — diddymu cymuned a newid canlyniadol i gyngor cymuned

250.—(1Mae cymuned bresennol Llandeilo Gresynni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.

(2Mae cyngor cymuned Llandeilo Gresynni wedi ei ddiddymu.

Treuliau cychwynnol etc cynghorau cymuned newydd

251.—(1Yn yr erthygl hon—

ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Sir Fynwy;

ystyr “y cynghorau cymuned newydd” (“the new community councils) yw’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(8);

ystyr “y gymuned newydd” (“the new community”) yw ardal gymunedol briodol y cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022.

(2Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai—

(a)at ddibenion gwneud cyfrifiad yn unol ag adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992—

(i)y swm yr hysbyswyd amdano yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â’r gymuned newydd, a

(ii)ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.

(b)is-adran (6) wedi ei hepgor.

(3Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai ei bod yn ofynnol i’r awdurdod bilio arfaethedig, wrth wneud cyfrifiadau yn unol ag adran 32 o Ddeddf 1992 (yn wreiddiol neu drwy amnewidiad) at ddibenion ei amcangyfrif o dan adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992, gymryd i ystyriaeth swm sy’n hafal i’r swm hwnnw yr hysbyswyd iddo yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.

(4Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai cyfanswm y praeseptau a ragwelir gan yr awdurdod bilio arfaethedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf 1992 yn cynnwys y symiau a hysbyswyd i’r cynghorau cymuned newydd yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.

(5Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai’n ofynnol i bob un o’r cynghorau cymuned newydd sicrhau nad yw’r swm a gyfrifir fel ei ofyniad cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na’r swm a hysbyswyd i’r cyngor cymuned newydd hwnnw yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.

(6Rhaid i’r swm priodol sydd i’w hysbysu i bob un o’r cynghorau cymuned newydd yn unol â’r paragraff hwn gael ei hysbysu gan Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig i’r awdurdod bilio arfaethedig ac i bob un o’r cynghorau cymuned newydd.

(7Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995(9) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai—

(a)rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni talu) wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff 8 o’r Atodlen (rheolau i benderfynu’r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau)—

(i)yn is-baragraffau (1), (2) a (3), bod y geiriau sy’n dilyn y cyfeiriad cyntaf at “that financial year” wedi eu hepgor;

(ii)yn is-baragraff (1)(a) bod y cyfeiriad at “April” yn gyfeiriad at “May”.

Cynghorau cymuned newydd

252.  Rhaid i swyddog priodol Cyngor Sir Fynwy alw cyfarfod cyntaf pob un o’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan erthyglau 137, 157, 232 a 246.

Cynghorau cymuned newydd — olynwyr gweddilliol

253.  At ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliadau sy’n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd—

(a)mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llan-gwm a Llantrisant Fawr, mae cyngor cymuned newydd Llantrisant Fawr wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol;

(b)mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llangybi a Llanhenwg, mae cyngor cymuned newydd Llangybi wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

2 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gweithredu cynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Ionawr 2019 ar adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn argymell newidiadau i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Fynwy a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol, ac mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn heb addasiad.

Effaith y Gorchymyn hwn yw gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diddymu nifer o gymunedau a’u cynghorau cymuned, yn creu cymunedau newydd a chynghorau cymuned newydd ac yn gwneud darpariaeth weinyddol ar gyfer gweithrediad y cynghorau cymuned newydd hynny, a gosod praeseptau sy’n ymwneud â hwy.

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol a darpariaethau atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion o’r math hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “166” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Fynwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Fynwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(2)

1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 54 a 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’u harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.

(3)

Diddymwyd adran 67 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’i harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.

(4)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).

(5)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(6)

O.S. 1976/246 (fel y’i diwygiwyd gan offerynnau statudol amrywiol. Nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn).

(8)

1992 p. 14. Diwygiwyd adrannau 32 a 35, o ran Cymru, gan baragraffau 4 a 6 yn y drefn honno o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19). Diwygiwyd adran 50 gan Ran 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Mewnosodwyd adrannau 52X a 52Y gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p. 27).

(9)

O.S. 1995/2562 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2001/3649).