xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F12023].
(2) Ar 31 Awst [F22023] —
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn ergl. 15(1)(c) wedi ei amnewid (10.6.2022) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(4)(a)
F2Gair yn ergl. 15(2) wedi ei amnewid (10.6.2022) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud