xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1244 (Cy. 316) (C. 69)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021

Gwnaed

9 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—

(i)

adran 312(2)(2) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;

[F1ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;]

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(4) o Ddeddf 1996;

ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2)(5) o Ddeddf 2014;

ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—

(i)

adran 312(4)(6) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(7);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(8);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(9) o Ddeddf 1996;

ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond nid yw’n cynnwys person sydd ym mlwyddyn 11;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â phlentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 15 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(10);

mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;

mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(11);

mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(12) o Ddeddf 1996;

mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A)(13) o Ddeddf 1996;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—

(a)adran 323;

(b)adran 329;

(c)adran 329A.

(4Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—

(a)y Ddeddf,

(b)rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac

(c)unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—

(i)darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu

(ii)person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.

(5At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(6At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.

(7At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—

(a)pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;

(b)pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwydLL+C

2.—(1At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig—

(a)mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;

(b)mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—

(i)yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a

(ii)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P;

a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

(2Ond nid yw’n cynnwys plentyn—

(a)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;

(b)y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;

(c)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(d)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(e)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(f)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(g)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(h)y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;

(i)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben, neu

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(j)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(k)nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(14)

(i)yn mynd rhagddo, neu

(ii)wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;

(l)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(m)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(n)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(o)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(p)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;

(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2022LL+C

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—

(a)adrannau 2 i 4;

(b)adrannau 6 i 14;

(c)adrannau 17 i 36;

(d)adran 38;

(e)adrannau 40 i 44;

(f)adrannau 47 i 49;

(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)adran 50(4) i (5);

(i)adrannau 51 i 53;

(j)adran 55;

(k)adran 59;

(l)adrannau 63 i 66;

(m)adrannau 68 i 69;

(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 1;

(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);

(iii)paragraff 4(2) i 4(8);

(iv)paragraff 4(9);

(v)paragraff 4(10);

(vi)paragraff 4(13) i 4(18);

(vii)paragraff 4(19)(b);

(viii)paragraff 4(20) a 4(21);

(ix)paragraff 4(23) i 4(29);

(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xi)paragraff 7;

(xii)paragraff 8;

(xiii)paragraff 11(a);

(xiv)paragraff 12(a);

(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);

(xvi)paragraff 14(2) a (3);

(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);

(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);

(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);

(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxi)paragraff 22;

(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);

(xxiii)paragraff 23(4);

(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Darpariaeth arbedLL+C

4.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 14 i 19, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996(15) wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—

(a)mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a

(b)nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Hysbysiad CDULL+C

5.  Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—

(a)bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a

(b)y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Hysbysiad Dim CDULL+C

6.  Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Effaith hysbysiad CDULL+C

7.  Effaith yr hysbysiad CDU yw—

(a)y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,

(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 7 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Effaith hysbysiad Dim CDULL+C

8.  Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—

(a)y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,

(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 8 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Dyletswydd i roi hysbysiadLL+C

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 [F2neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud

10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd [F3ym mlwyddyn]10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.LL+C

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud

I10Ergl. 10 mewn grym ar y dyddiad gwneud

[F410A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.LL+C

(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.]

11.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl [F59, 10 na 10A].LL+C

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 [F6neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025].

Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDULL+C

12.  Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 niwrnod gwaith i’r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Ergl. 12 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolLL+C

13.—(1Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, [F710A,] 11 neu 12 rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

(2Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan awdurdod lleol yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.

Hysbysiad ADYLL+C

14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.

(3Effaith yr hysbysiad ADY yw—

(a)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a

(b)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.

(4Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Ergl. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodolLL+C

15.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,

(b)a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, ac

(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F82023].

(2Ar 31 Awst [F92023]

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

16.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,

(b)a oedd [F10ym mlwyddyn] 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023, ac

(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.

(2Ar 31 Awst 2023—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud

I16Ergl. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud

[F1116A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac

(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar 31 Awst 2024—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.]

17.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022, a

(b)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F122025].

(2Ar 31 Awst [F122025]

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud

I17Ergl. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Newid mewn amgylchiadauLL+C

18.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—

(a)sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(b)nad yw’n blentyn sy’n derbyn gofal,

(c)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a

(d)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Ergl. 18 mewn grym ar y dyddiad gwneud

19.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—

(a)sy’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal,

(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac

(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Ergl. 18 mewn grym ar y dyddiad gwneud

I19Ergl. 19 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigolLL+C

20.  Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Ergl. 20 mewn grym ar y dyddiad gwneud

[F13Galluedd plantLL+C

21.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2)[F14, 10A(2)] ac 11(2);

(b)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;

(c)i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1);

(d)i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2).

(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.]

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

9 November 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 10 ac yn is, sy’n mynychu ysgol a gynhelir (gan gynnwys uned cyfeirio disgyblion), sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd ac sydd naill ai yn blant sy’n derbyn gofal neu sydd wedi cofrestru mewn sefydliad arall. Mae’n eithrio rhai eraill sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol, gan gynnwys y rheini sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig (erthygl 2).

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith (erthygl 4).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol (gweler erthygl 1(7)) roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 i 11). Er enghraifft, bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin, neu sydd ym mlwyddyn 1, 3, 5, 7 neu 10 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y mae’r plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.

Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).

Caiff plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 12). Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys (erthygl 13).

Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw hysbysiad ADY a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd (erthygl 14).

Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo, mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac mae’r gyfraith newydd yn cael effaith ar ddiwrnod olaf y flwyddyn ysgol berthnasol (erthyglau 15 i 17).

Mae erthygl 18 yn gymwys pan fo plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall ac na fo’n derbyn gofal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall.

Mae erthygl 19 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â derbyn gofal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd, o dan amgylchiadau penodol, rhaid rhoi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 20).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(16):

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 4 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 52 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 6 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 7 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 8 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 10 i 14 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 152 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 16 (yn rhannol)O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)2 Tachwedd 2020O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)(17)
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 21 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 32 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 36 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 372 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 38 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 392 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 452 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 462 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 47 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 54 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 55 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 56 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 56(1)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 56(4) i (6)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 57 i 581 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 59 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 604 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 614 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 624 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 65 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 66 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 672 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 70 i 731 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 742 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 75 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 76 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 77 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/374 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 78 i 811 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 822 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 83 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 841 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 85 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 86 i 901 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 91 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 92 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 93 i 941 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 95 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 96 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 31 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 101 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 11(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 131 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 181 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 201 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)(18)
(2)

Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.

(3)

Amnewidiwyd y diffiniad o “awdurdod lleol” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(4)

Mewnosodwyd diffiniad o “blwyddyn ysgol” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.

(5)

Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.

(6)

Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

(9)

Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(11)

Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(12)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(13)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(15)

Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.

(16)

Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.