Enwi a dehongliLL+C
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
adran 312(2) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
adran 312(4) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(3);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(4) o Ddeddf 1996;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(5);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(6);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7);
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(4) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(8).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
O.S. 2012/322 (Cy. 53).
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34) ac O.S. 2021/938 (Cy. 214) (C. 49).