xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1245 (Cy. 317) (C. 70)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021

Gwnaed

9 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—

(i)

adran 312(2) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(2) o Ddeddf 1996;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—

(i)

adran 312(4) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(4);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(5) o Ddeddf 1996;

mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(6);

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(7);

mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;

mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(8);

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(4Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(9).

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd

2.  Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2022

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022—

(a)adrannau 2 i 4;

(b)adrannau 6 i 14;

(c)adrannau 17 i 36;

(d)adran 38;

(e)adrannau 40 i 44;

(f)adrannau 47 i 49;

(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)adran 50(4) i (5);

(i)adrannau 51 i 53;

(j)adran 55;

(k)adran 59;

(l)adrannau 63 i 66;

(m)adrannau 68 i 69;

(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 1;

(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);

(iii)paragraff 4(2) i 4(8);

(iv)paragraff 4(9);

(v)paragraff 4(10);

(vi)paragraff 4(13) i 4(18);

(vii)paragraff 4(19)(b);

(viii)paragraff 4(20) a 4(21);

(ix)paragraff 4(23) i 4(29);

(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xi)paragraff 7;

(xii)paragraff 8;

(xiii)paragraff 11(a);

(xiv)paragraff 12(a);

(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);

(xvi)paragraff 14(2) a (3);

(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);

(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);

(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);

(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxi)paragraff 22;

(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);

(xxiii)paragraff 23(4);

(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

4.  Person—

(a)sydd ym mlwyddyn 11;

(b)nad yw mewn ysgol ac a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022;

(c)sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

(d)sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;

(e)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(f)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(g)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(h)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(i)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(j)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(k)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(l)nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(10)

(i)yn mynd rhagddo; neu

(ii)wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;

(m)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(n)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(o)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(p)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

9 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(11):

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 4 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 52 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 6 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 7 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 8 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 10 i 14 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 152 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 16 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)(12)
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 21 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 32 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 36 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 372 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 38 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 392 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 452 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 462 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 47 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 54 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 55 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 56 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 56(1)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 56(4) i (6)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 57 i 581 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 59 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 604 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 614 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 624 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 65 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 66 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 672 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 70 i 731 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 742 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 75 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 76 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 77 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/374 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 78 i 811 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 822 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
Adran 83 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 841 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 85 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 86 i 901 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 91 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 92 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adrannau 93 i 941 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 95 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Adran 96 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 31 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 101 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 11(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 131 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 181 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)
(yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 201 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)(13)
(2)

Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.

(5)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).

(6)

O.S. 2012/322 (Cy. 53).

(7)

Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(11)

Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.