- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3037 (Cy. 303)) (“Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”). Mae’r diwygiadau yn cymryd effaith mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022. Y prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—
(a)gwneud newidiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;
(b)gwneud newidiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd â chaniatâd Calais neu bersonau penodol sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu sydd wedi cael profedigaeth;
(c)newid y dyddiad olaf i wneud cais i 28 Chwefror.
Mae rheoliad 4 yn diwygio’r diffiniadau.
Mae rheoliad 5 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â chymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer categorïau cymhwystra newydd sy’n gymwys mewn perthynas â cheisiadau am gymorth gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022. Mae’n cyfyngu categorïau cymhwystra penodol a oedd yn gymwys cyn 1 Medi 2022 i fyfyrwyr sy’n dod o fewn y categorïau hynny cyn 1 Medi 2022 ac sy’n ymgymryd â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022. Mae’r categorïau cymhwystra hynny yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chwrs o’r fath a’r cwrs cyntaf y caniateir i statws y person hwnnw fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo iddo yn unol â Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau cyfatebol mewn perthynas â throsglwyddo cymhwystra myfyriwr cymwys.
Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau sy’n ymwneud â grantiau at gostau byw a chostau eraill, grantiau dibynyddion mewn oed a lwfans dysgu rhieni.
Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, yn bennaf i fewnosod paragraffau cymhwystra newydd a diffiniadau cysylltiedig. Mae’r diwygiadau yn gymwys mewn perthynas—
â phersonau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt, personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth, personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a phersonau sy’n bodloni gofynion paragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo, gan gynnwys plant y rhoddwyd “caniatâd oherwydd llinach” iddynt (personau sydd â chaniatâd Calais);
â phersonau y rhoddir caniatâd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig o dan y rheolau mewnfudo oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu oherwydd eu bod wedi cael profedigaeth a’u plant;
â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
â phersonau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd (“y Cytundebau”) ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio (fel y diffinnir “residence scheme immigration rules” yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020);
â phersonau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y Cytundebau nad yw eu ceisiadau am ganiatâd o’r fath wedi eu penderfynu eto, a dinasyddion Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddynt gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
ag aelodau o deuluoedd personau perthnasol o Ogledd Iwerddon sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;
â gweithwyr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1213);
â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a arferodd hawl i breswylio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
â gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028;
ag aelodau o deuluoedd gwladolion o’r Deyrnas Unedig sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd;
â gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sy’n preswylio yn Gibraltar a phersonau sydd â hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
â phlant gwladolion Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;
â phlant gweithwyr Twrcaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Mae’r diwygiadau hefyd yn gwneud mân gywiriadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys