Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1306 (Cy. 335)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021

Gwnaed

23 Tachwedd 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

25 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021 a deuant i rym ar y diwrnod y caiff Deddf Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021(3) ei phasio.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021(4) wedi eu dirymu.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (“Rheoliadau 2021”). Mae Rheoliadau 2021 yn pennu’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Bydd Deddf Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021 yn darparu ar gyfer pwnc Rheoliadau 2021 yn eu lle.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1988 p. 41. Diwygiwyd paragraff 2(8) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 38(8) o Atodlen 5 iddi. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.