xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1327 (Cy. 340)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

Gwnaed

am 4.31 p.m. ar 26 Tachwedd 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 7.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

am 8.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.