Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37). Mae adran 85(1) yn darparu, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu sy’n effeithio ar ardal o’r fath, bod rhaid i “relevant authority” roi sylw i’r dibenion o gadw a gwella harddwch naturiol yr ardal.

Mae adran 85(2) yn rhestru’r cyrff a’r personau sy’n “relevant authority” ac sydd felly yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd a gynhwysir yn adran 85(1). Mae’r rhestr yn cynnwys “any public body”, gydag adran 85(3) yn rhestru cyrff sydd wedi eu cynnwys o fewn y term hwn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 85(3) fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“y Ddeddf”), wedi eu cynnwys yn y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 85(3). Drwy hyn, mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 85(1).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.