Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

Cyfarpar gorsafoedd pleidleisio

32.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,

(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983(1)i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac

(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).

(4Ym mharagraff (3), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a

(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caniateir i’r swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).

(7Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (5) a (6)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.

(8Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b)—

(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac

(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,

(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a

(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.

(9Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn Atodiad 6, yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—

(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a

(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.

(10Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.

(11Rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—

(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;

(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;

(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.

(1)

Rhoddwyd adrannau 13 i 13B o Ddeddf 1983 yn lle adran 13 o’r Ddeddf honno gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. Mewnosodwyd adran 13B(3B) a (3D) gan adran 11(4) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.