
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Gwrthgyfrif ar gyfer ychwanegiad yng ngwerth tir a gadwyd
33.—(1) Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn cysylltiad â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd a fydd yn cronni i’r person hwnnw drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.
(2) Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol), rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—
(a)unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y mae’r hawliau newydd drosto’n ofynnol; a
(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd,
a fydd yn cronni iddo drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.
(3) Mae Deddf 1961 yn cael effaith, yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.
Yn ôl i’r brig