
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Caniatâd cynllunio a materion atodol
39.—(1) Mewn perthynas â chymhwyso paragraff 3(c) o’r Ail Atodlen i Ffurf Gorchymyn Diogelu Coed a nodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Diogelu Coed) 1969() (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y’i cymhwyswyd gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Diogelu Coed) (Diwygio) a (Coed Mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion Eithriedig) 1975(), neu fel y’i hymgorfforwyd mewn unrhyw orchymyn diogelu coed), trinnir unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy’n tybio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn fel un sy’n tybio bod caniatâd wedi cael ei roi ar gais a wneir o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.
(2) Mewn perthynas â chymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf Gorchymyn Diogelu Coed a nodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999() fel y’i hymgorfforwyd mewn unrhyw orchymyn diogelu coed neu sy’n cael effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o’r Rheoliadau hynny, ni fydd unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy’n tybio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn yn cael ei drin fel caniatâd cynllunio amlinellol.
(3) Mae caniatâd cynllunio y bernir ei fod wedi cael ei roi gan gyfarwyddyd o dan adran 90(2A)() o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn i’w drin fel caniatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o’r Ddeddf honno (achosion lle mae tir i’w drin fel pe bai’n dir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).
Yn ôl i’r brig