- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Pan fo stryd wedi’i chau o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) bydd gan unrhyw gyfleustod statudol y mae ei gyfarpar o dan y stryd, yn y stryd, ar y stryd, ar hyd y stryd neu ar draws y stryd yr un pwerau a hawliau mewn perthynas â’r cyfarpar hwnnw, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, fel pe na bai’r Gorchymyn hwn wedi cael ei wneud.
(2) Pan fo stryd wedi’i chau o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) caiff unrhyw gyfleustod statudol y mae ei gyfarpar o dan y stryd, yn y stryd, ar y stryd, dros y stryd, ar hyd y stryd neu ar draws y stryd, ac os gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan ymgymerwr rhaid iddo—
(a)dynnu ymaith y cyfarpar a’i osod neu osod cyfarpar arall a ddarparwyd yn ei le yn y cyfryw leoliad arall ag a bennir yn rhesymol gan y cyfleustod ac y mae ganddo’r pŵer i’w osod; neu
(b)ddarparu cyfarpar arall yn lle’r cyfarpar presennol a’i osod yn y cyfryw leoliad arall ag a nodwyd uchod.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, rhaid i’r ymgymerwr dalu i unrhyw gyfleustod statudol swm sy’n hafal i’r gost y mae’r cyfleustod yn rhesymol yn mynd iddi wrth—
(a)gwblhau’r gweithfeydd adleoli sy’n ofynnol i gau’r stryd neu mewn cysylltiad â hynny; a
(b)gwneud unrhyw waith neu beth arall sy’n angenrheidiol o ganlyniad i gwblhau’r gweithfeydd adleoli neu mewn cysylltiad â hynny.
(4) Os, wrth gwblhau gweithfeydd adleoli o dan baragraff (2)—
(a)gosodir cyfarpar o fath gwell, o gapasiti ychwanegol neu o ddimensiynau mwy yn lle’r cyfarpar presennol; neu
(b)gosodir cyfarpar (y cyfarpar presennol neu gyfarpar a osodwyd yn lle’r cyfarpar presennol) ar ddyfnder sy’n ddyfnach na’r cyfarpar presennol,
ac nad yw’r ymgymerwr yn cytuno i osod cyfarpar o’r math hwnnw neu’r capasiti hwnnw neu o’r dimensiynau hynny nac i osod cyfarpar ar y dyfnder hwnnw, yn ôl y digwydd, neu yn niffyg cytundeb, penderfynir drwy gymrodeddu nad yw’n angenrheidiol, yna os oes cost ynghlwm wrth gwblhau’r gweithfeydd adleoli sy’n fwy na’r hyn a fyddai wedi bod ynghlwm pe bai’r cyfarpar a osodwyd yn gyfarpar o’r math, y capasiti neu’r dimensiynau presennol neu ar y dyfnder presennol, yn ôl y digwydd, bydd y swm a fyddai ar wahân i’r paragraff hwn yn daladwy i’r cyfleustod statudol yn rhinwedd is-baragraff (3) yn cael ei leihau o’r gorswm hwnnw.
(5) At ddibenion paragraff (4)—
(a)ni thrinnir estyn cyfarpar i hyd sy’n fwy na hyd y cyfarpar presennol fel pe bai’n gosod cyfarpar o ddimensiynau mwy na rhai’r cyfarpar presennol; a
(b)phan gytunir ar ddarparu uniad mewn cebl, neu pan benderfynir bod uniad yn angenrheidiol, bydd darparu siambr uno neu dwll archwilio o ganlyniad i hynny yn cael ei drin fel pe bai cytundeb hefyd yn ei gylch fel pe bai wedi cael ei benderfynu felly.
(6) Bydd swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i gyfleustod statudol mewn cysylltiad â gweithfeydd yn rhinwedd paragraff (3) (ar ôl rhoi sylw i baragraff (4) lle y bo’n berthnasol), os yw’r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarparwyd yn lle’r cyfarpar a osodwyd fwy na 7 mlynedd a 6 mis yn gynharach er mwyn rhoi unrhyw fuddiant ariannol i’r cyfleustod sy’n codi drwy ohirio amser adnewyddu’r cyfarpar fel arfer, yn cael ei leihau o swm y buddiant hwnnw.
(7) Nid yw paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fo’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyfystyr â gweithfeydd trafnidiaeth mawr at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1991, ond yn lle hynny—
(a)penderfynir ar y costau a ganiateir am y gweithfeydd adleoli yn unol ag adran 85 o’r Ddeddf honno (rhannu cost mesurau angenrheidiol) ac unrhyw reoliadau sydd yn cael effaith am y tro o dan yr adran honno; a
(b)bydd y costau a ganiateir yn cael eu dwyn gan yr ymgymerwr a’r cyfleustod statudol yn y cyfryw gyfrannau ag a ragnodir gan unrhyw gyfryw reoliadau.
(8) Yn y paragraff hwn—
mae i “cyfarpar” yr un ystyr ag “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991;
ystyr “gweithfeydd adleoli” yw gwaith a weithredir, neu gyfarpar a ddarperir o dan is-baragraff (2); ac
ystyr “cyfleustod statudol” yw ymgymerwr statudol at ddibenion Deddf Priffyrdd 1980 neu ddarparwr cyfathrebu cyhoeddus fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 1(6)(1).
2003 p. 21. (Mae diwygiadau i adran 151(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys