RHAN 3Diogelu gweithredwyr rhwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig
31.—(1) Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a’r gweithredwr.
(2) Yn y Rhan hon—
ystyr “Deddf 2003” yw Deddf Cyfathrebu 2003;
mae i “system ddargludo” yr un ystyr â “conduit system” yn y cod cyfathrebu electronig ac mae cyfeiriadau at ddarparu system ddargludo i’w dehongli yn unol â pharagraff 1(3A) o’r cod hwnnw();
mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications apparatus” yn y cod cyfathrebu electronig;
mae i “cod cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications code” ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2003();
ystyr “rhwydwaith y cod cyfathrebu electronig” yw—
(a)
cymaint o rwydwaith cyfathrebu electronig neu system ddargludo a ddarperir gan weithredwr o dan y cod cyfathrebu electronig ag sydd ddim yn cael ei hepgor wrth gymhwyso’r cod cyfathrebu electronig drwy gyfarwyddyd o dan adran 106 o Ddeddf 2003; a
(b)
rhwydwaith cyfathrebu electronig y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu neu’n cynnig ei ddarparu;
ystyr “gweithredwr y cod cyfathrebu electronig” yw person y mae’r cod cyfathrebu electronig yn cael ei gymhwyso yn ei gylch drwy gyfarwyddyd o dan adran 106 o Ddeddf 2003; ac
ystyr “gweithredwr” yw gweithredwr rhwydwaith o dan y cod cyfathrebu electronig.
32. Nid yw cau na dargyfeirio unrhyw stryd dros dro o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) yn effeithio ar hawl y gweithredwr o dan baragraff 9 o’r cod cyfathrebu electronig i gynnal a chadw unrhyw gyfarpar sydd, ar adeg cau neu ddargyfeirio, yn y stryd honno.
33.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), os o ganlyniad i’r prosiect awdurdodedig neu ei adeiladu, neu unrhyw ymsuddo o ganlyniad i unrhyw ran o’r prosiect—
(a)achosir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig sy’n eiddo i weithredwr (heblaw am gyfarpar nad yw’n rhesymol angenrheidiol ei atgyweirio o ystyried y bwriad i’w waredu at ddibenion y prosiect) neu eiddo arall gweithredwr; neu
(b)mae tarfu ar gyflenwad y gwasanaeth a ddarperir gan weithredwr, rhaid i’r ymgymerwr ddwyn a thalu’r gost y mae’r gweithredwr yn rhesymol yn mynd iddi wrth unioni’r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad;
(c)rhoi digollediad rhesymol i weithredwr am golled a achosir iddo; a
(d)indemnio gweithredwr rhag hawliadau, archebion am dâl, achosion cyfreithiol, costau, iawndal a threuliau y gellir eu gwneud neu eu dwyn yn erbyn gweithredwr neu y gellir eu hadennill oddi wrth weithredwr neu y gall gweithredwr fynd iddynt oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw gyfryw ddifrod neu darfu.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—
(a)unrhyw gyfarpar y mae cysylltiadau rhwng yr ymgymerwr a gweithredwr mewn perthynas ag ef yn cael eu rheoleiddio gan Ran 3 o Ddeddf 1991; neu
(b)unrhyw ddifrod, neu unrhyw darfu, a achosir gan ymyrraeth electro-magnetig sy’n codi o adeiladu neu ddefnyddio’r prosiect awdurdodedig.
(3) Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw ddifrod neu darfu i’r graddau y gellir ei briodoli i weithred, esgeulustod neu ddiffyg gweithredwr, ei swyddogion, ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau.
(4) Rhaid i’r gweithredwr roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad na chyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr sydd, os yw’n atal y cyfryw gydsyniad, yn cynnal ar ei ben ei hun unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos llys sy’n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu’r archeb am dâl.
(5) Mae unrhyw wahaniaeth sy’n codi rhwng yr ymgymerwr a’r gweithredwr o dan y Rhan hon i’w gyfeirio at gymrodeddwr ac i’w setlo drwy gymrodeddu o dan erthygl 49 (cymrodeddu).