Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
NODYN ESBONIADOL
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 0 i Lefel Rhybudd 2 ar 26 Rhagfyr 2021, gan olygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith;
diwygio rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gyfrifol am weithleoedd, mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd a cherbydau trafnidiaeth gyhoeddus (“mangreoedd rheoleiddiedig”) gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp, sy’n cynnwys dim mwy na 6 pherson neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, neu ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd;
darparu, wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, y caiff y person sy’n gyfrifol am y fangre roi sylw i fesurau eraill a gymerir i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws pan fo pobl yn ymgynnull yn y fangre;
mewnosod rheoliad newydd 16ZA yn y prif Reoliadau i wneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd trwyddedig, gan gynnwys gofyniad i reoli mynediad i’r fangre ac i gwsmeriaid fod yn eistedd pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod (yn ddarostyngedig i eithriadau);
mewnosod rheoliad newydd 16ZB yn y prif Reoliadau i wneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd manwerthu, gan gynnwys gofyniad i reoli mynediad i’r fangre, i ddarparu cynhyrchion diheintio dwylo, i ddarparu mesurau ychwanegol i ddiheintio basgedi a throlïau etc., ac i arwyddion a chyhoeddiadau atgoffa pobl i gynnal pellter o 2 fetr ac i wisgo gorchudd wyneb;
adfer y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre, ac eithrio wrth eistedd;
gwneud mân ddiwygiad sy’n ei gwneud yn glir bod y rheini sy’n chwarae mewn digwyddiad camp tîm (nad yw’n gamp broffesiynol) neu sy’n ymwneud â hyfforddi tîm mewn digwyddiad o’r fath i’w trin fel pe baent yn gweithio yn y digwyddiad ac felly nad ydynt yn cyfrif tuag at unrhyw derfyn ar niferoedd yn y digwyddiad (yn yr un ffordd ag y mae dyfarnwyr ac eraill sy’n ymwneud â chynnal y digwyddiad yn cael eu hystyried fel pe baent naill ai’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y digwyddiad ac felly nad ydynt yn cyfrif tuag at y terfyn ychwaith);
yn diwygio Atodlen 2 (Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2) i’r prif Reoliadau er mwyn—
(o ystyried penderfyniad a gymerwyd i ddarparu cyngor ar leihau cysylltiad cymdeithasol yn hytrach na gosod cyfyngiadau cyfreithiol) dileu’r cyfyngiadau ar ymgynnull mewn anheddau preifat ac mewn llety gwyliau, ond mae hyn yn ddarostyngedig iddi fod yn drosedd cymryd rhan mewn cynulliad o fwy na 30 o bobl o dan do neu fwy na 50 o bobl yn yr awyr agored yn y lleoedd hyn;
newid yr esemptiad i’r cyfyngiad ar ddigwyddiadau i alluogi unrhyw nifer o bobl i fynd i ddathliad priodas neu ddathliad person a fu farw’n ddiweddar a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig (ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r uchafswm niferoedd a ganiateir yn y fangre yn unol â’r asesiad risg a mesurau rhesymol eraill a gymerir o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol);
newid y rhestr o fusnesau y mae rhaid cau eu mangreoedd i hepgor lleoliadau adloniant i oedolion a rinciau sglefrio iâ;
gwneud diwygiadau sy’n cyfateb i’r rheini a wneir i Atodlen 2 i Atodlen 1 (Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.
Yn ôl i’r brig