Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021

RHAN 3

Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth

Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth

6.  Yn y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth, ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—

Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad
Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad

18A.(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol bennu’r trefniadau ar gyfer cyflawni ar y cyd y swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” yw’r swyddogaethau penodedig a roddir i awdurdodau lleol gan adran 144B o’r Ddeddf(1).

(1)

Mae swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 144B o’r Ddeddf yn un o’r swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol sy’n “swyddogaethau penodedig” at ddibenion y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth yn rhinwedd rheoliad 9 o’r Rheoliadau hynny ac Atodlen 1 iddynt.