xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
4 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2. Yn Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020(2), yn rheoliad 2 (cymhwyso), yn lle “1 Ebrill 2021”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “1 Gorffennaf 2021”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/794 (Cy. 174)) (“Rheoliadau 2020”). Mae Rheoliadau 2020 yn darparu ar gyfer amrywiad dros dro i’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer treth trafodiadau tir sy’n gymwys i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021. Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn cymhwysiad yr amrywiad dros dro i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Gorffennaf 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cym.