- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”) ac ar ddatgymhwyso a diddymu Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) (“Mesur 2009”) gan Ddeddf 2021.
Mae Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 yn sefydlu system newydd ar gyfer asesu perfformiad a llywodraethiant cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, gan ddisodli’r system a oedd yn gymwys i’r cynghorau hynny o dan Ran 1 o Fesur 2009. Roedd y system yn Rhan 1 o Fesur 2009 hefyd yn gymwys i awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ac i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru (a bydd yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau tân ac achub hyd nes y bydd y darpariaethau yn Neddf 2021 sy’n ei datgymhwyso mewn perthynas â’r awdurdodau hynny yn dod i rym). Nid yw’r system ym Mhennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 yn gymwys i awdurdodau tân ac achub nac i awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
O dan Fesur 2009, cyfeiriwyd at gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub fel “awdurdodau gwella Cymreig”. Defnyddiwyd y term hwnnw wedi hynny mewn peth deddfwriaeth fel ffordd o gyfeirio at gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Datgymhwysir Mesur 2009 mewn perthynas â chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol gan adran 113 o Ddeddf 2021. Fe’i datgymhwysir mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub gan adran 168 o’r Ddeddf honno. Fe’i datgymhwysir mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol gan adran 169 o’r Ddeddf honno. Diddymir Mesur 2009 yn llawn gan adran 170 o’r Ddeddf honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys