Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i sefydlu cyrff corfforedig a elwir yn gyd-bwyllgorau corfforedig. Sefydlir y cyrff hyn er mwyn arfer swyddogaethau penodol a bennir yn y rheoliadau sy’n eu sefydlu, mewn perthynas ag ardal sy’n cynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig (yn ogystal â hynny, pan roddir swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio strategol i gyd-bwyllgor corfforedig, caiff awdurdod Parc Cenedlaethol fod yn aelod o’r pwyllgor hefyd).

Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu corff corfforedig a elwir yn Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn fel rhai sy’n arferadwy gan y corff hwn—

(1y swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o Ddeddf 2021),

(2datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a

(3llunio cynlluniau datblygu strategol (gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, a’i ardal, ac yn diffinio rhai termau allweddol.

Mae Rhan 2 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen hon yn cynnwys trefniadau cyfansoddiadol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gan gynnwys trefniadau ynghylch cynnal a chadeirio cyfarfodydd, pleidleisio ar benderfyniadau, sefydlu is-bwyllgorau a staffio.

Mae Rhan 3 yn nodi aelodaeth Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Yn unol â’r Rhan hon, bydd y corff wedi ei ffurfio o 6 aelod cyngor, un ar gyfer pob awdurdod lleol yn y gogledd, ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, nad oes ganddo ond hawl i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol. Caiff y Pwyllgor gyfethol personau eraill (a elwir yn “cyfranogwyr cyfetholedig”) i gyfranogi ym musnes y Pwyllgor a chaiff roi hawliau pleidleisio i gyfranogwyr cyfetholedig.

Mae Rhan 4 yn pennu y caniateir arfer y 3 swyddogaeth a grybwyllir uchod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac y caiff y Pwyllgor wneud pethau eraill i hwyluso arfer y swyddogaethau hynny neu bethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd i gyfrifo ei gyllideb a sut y mae i’w ariannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill