xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Aelodau CBC y Gogledd yw—
(a)y 6 aelod cyngor, F1...
(b)aelod Eryri[F2 , ac]
[F3(c)unrhyw aelod cyfetholedig.]
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd [F4, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)].
F5(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri [F6ac unrhyw aelod cyfetholedig] oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 6(1)(a) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(a)(i)
F2Gair yn rhl. 6(1)(b) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(a)(ii)
F3Rhl. 6(1)(c) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(a)(iii)
F4Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(b)
F5Rhl. 6(3) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(c)
F6Geiriau yn rhl. 6(4) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.
(2) Pan fo aelod cyngor yn anabl i [F7weithredu fel aelod cyngor] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i [F8weithredu] ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn rhl. 7(2) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(4)(a)
F8Gair yn rhl. 7(2) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
[F9(2A) Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.]
(3) Pan fo aelod Eryri yn anabl i [F10weithredu fel aelod] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i [F11weithredu] ar ran aelod Eryri am y cyfnod hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F9Rhl. 8(2A)-(2C) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(5)(a)
F10Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(5)(b)(i)
F11Gair yn rhl. 8(3) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(5)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu
(ii)y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.]
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 9 wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
10. Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)rheoliad 7(1), neu
(b)rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)