Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaidd

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Gogledd (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Gogledd, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Gogledd a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(2).

Swyddogaethau cynllunio strategol

13.  Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Gogledd (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Is-bwerau

14.—(1Caniateir i CBC y Gogledd wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Dirprwyo swyddogaethau

15.—(1Caiff CBC y Gogledd ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—

(a)paragraff (2);

(b)unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.

(2Ni chaiff CBC y Gogledd ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—

(a)rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);

(b)rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);

(c)rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);

(d)rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);

(e)rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);

(f)paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);

(g)paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);

(h)paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);

(i)paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);

(j)paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).

(2)

S.I. 2021/328 (Cy. 86).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill