- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
9.—[F1(1)] Caiff CBC y Gogledd wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(1).
[F2(2) Rhaid i CBC y Gogledd sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Gogledd gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.]
Caiff CBC y Gogledd wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
Diwygiadau Testunol
F1Atod. para. 9(1): Atod. para. 9 wedi ei ailrifo fel Atod. 9(1) (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(12)(a)
F2Atod. para. 9(2) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(12)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Pan fo CBC y Gogledd yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y Gogledd.
[F3(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y Gogledd rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.]
Diwygiadau Testunol
F3Atod. para. 10(2) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(13)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(2)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y Gogledd ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y Gogledd at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y Gogledd at ddibenion—
(a)y Rheoliadau hyn;
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;
(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y Gogledd neu ag arfer ei swyddogaethau.
[F4(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.]
Diwygiadau Testunol
F4Atod. para. 11(3) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(14)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Caiff CBC y Gogledd ymrwymo i gytundeb gydag—
(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);
(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),
ar gyfer rhoi staff CBC y Gogledd at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff CBC y Gogledd yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—
(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y Gogledd, a
(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
13. Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
14. Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y Gogledd wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(3) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys