- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021, RHAN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
6.—(1) Aelodau CBC y Canolbarth yw—
(a)y 2 aelod cyngor, F1...
(b)aelod Bannau Brycheiniog. [F2, ac]
[F3(c)unrhyw aelod cyfetholedig.]
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Canolbarth [F4, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)].
F5(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Canolbarth (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog [F6ac unrhyw aelod cyfetholedig] oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 6(1)(a) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(a)(i)
F2Gair yn rhl. 6(1)(b) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(a)(ii)
F3Rhl. 6(1)(c) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(a)(iii)
F4Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(b)
F5Rhl. 6(3) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(c)
F6Geiriau yn rhl. 6(4) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.
[F7(2) Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Canolbarth am y cyfnod hwnnw.
(2A) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Canolbarth.
(2B) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(2C) Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Canolbarth, neu
(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.]
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Diwygiadau Testunol
F7Rhl. 7(2)-(2C) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 7(2) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 5(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Canolbarth (“aelod Bannau Brycheiniog”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
[F8(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn [F9yn unfrydol], neu
(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.]
[F10(3) Pan fo person sy’n aelod Bannau Brycheiniog o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Bannau Brycheiniog am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Canolbarth am y cyfnod hwnnw.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Bannau Brycheiniog o CBC y Canolbarth.
(5) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Bannau Brycheiniog fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(6) Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Canolbarth, neu
(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.]
Diwygiadau Testunol
F8Rhl. 8(2A)-(2C) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(5)(a)
F9Gair yn rhl. 8(2B)(a) wedi ei fewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 40(4)
F10Rhl. 8(3)-(6) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(3) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 5(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill [F12sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad], ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu
(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.]
Diwygiadau Testunol
F11Rhl. 9 wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(6)
F12Geiriau yn rhl. 9(2)(b) wedi eu mewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 40(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Canolbarth os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y Canolbarth;
(ii)is-bwyllgor i CBC y Canolbarth;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).]
Diwygiadau Testunol
F13Rhl. 9A wedi ei fewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 40(6)
10. Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)rheoliad 7(1), neu
(b)rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys