xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSwyddogaethau

Llesiant economaiddLL+C

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Canolbarth (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaethLL+C

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Canolbarth, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Ddeddf Trefnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Canolbarth a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Swyddogaethau cynllunio strategolLL+C

13.  Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Canolbarth (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)

Is-bwerauLL+C

14.—(1Caniateir i CBC y Canolbarth wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F1Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillLL+C

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 15 mewn grym ar 30.6.2022 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)

I6Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 (heblaw fel y crybwyllwyd yn rhl. 1(3)(d)), gweler rhl. 1(2)