[Aelodau cyfetholedigLL+C
9.—(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill [sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad], ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu
(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn