Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 03/12/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021, RHAN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
15.—(1) Caiff CBC y Canolbarth —
(a)sefydlu is-bwyllgorau;
(b)penodi’r canlynol yn aelodau o is-bwyllgor—
(i)aelodau o CBC y Canolbarth;
(ii)cyfranogwyr cyfetholedig (gweler rheoliad 9).
(2) Ni chaiff is-bwyllgor ond arfer y swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan CBC y Canolbarth (ond gweler rheoliad 15 a pharagraff 16).
(3) Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn y rheolau sefydlog.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 15 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Rhaid i CBC y Canolbarth sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—
(a)adolygu materion ariannol CBC y Canolbarth a chraffu arnynt;
(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y Canolbarth;
(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y Canolbarth ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;
(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y Canolbarth ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;
(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y Canolbarth;
(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y Canolbarth;
(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y Canolbarth.
(2) Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau—
(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,
(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac
(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn gyfranogwr cyfetholedig, nac
(iii)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.
(3) Yn is-baragraff (2), ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” yw person a gyfetholir—
(a)yn aelod o is-bwyllgor ac eithrio’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, neu
(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau CBC y Canolbarth ac eithrio gweithgareddau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(4) Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).
(5) Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys