xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 5
1. Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-ddwyrain gael eu cadeirio gan—
(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu
(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain—
(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a
(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).
(2) Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-ddwyrain—
(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu
(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.
(3) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.
(4) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—
(a)yr aelodau cyngor, a
(b)unrhyw [F1aelodau eraill] sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.
(5) Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.
(6) Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.
(7) Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.
(8) Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. para. 2(4)(b) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.
(2) Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-ddwyrain gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain onid yw—
(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(i)rheoliad 17, neu
(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a
(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain—
[F2(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,]
(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,
(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a
(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.
(2) Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.
(3) Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.
Diwygiadau Testunol
F2Atod. para. 6(1)(a) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(10)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.
(2) Ond ni chaiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)y paragraff hwn.
(3) Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-ddwyrain y mae’n gymwys iddynt;
(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).
[F3(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.]
(5) Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.
Diwygiadau Testunol
F3Atod. para. 7(4) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(11)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i CBC y De-ddwyrain wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—[F4(1)] Caiff CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(1).
[F5(2) Rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-ddwyrain gyflawni ei swyddogaethau’n briodol. ]
Diwygiadau Testunol
F4Atod. para. 9(1): Atod. para. 9 wedi ei ailrifo fel Atod. para. 9(1) (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(12)(a)
F5Atod. para. 9(2) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(12)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Pan fo CBC y De-ddwyrain yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-ddwyrain.
[F6(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.]
Diwygiadau Testunol
F6Atod. para. 10(2) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(13)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(2)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y De-ddwyrain ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y De-ddwyrain at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-ddwyrain at ddibenion—
(a)y Rheoliadau hyn;
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;
(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-ddwyrain neu ag arfer ei swyddogaethau.
[F7(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.]
Diwygiadau Testunol
F7Atod. para. 11(3) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(14)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain ymrwymo i gytundeb gydag—
(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);
(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),
ar gyfer rhoi staff CBC y De-ddwyrain at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff CBC y De-ddwyrain yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—
(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-ddwyrain, a
(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
13. Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
14. Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y De-ddwyrain wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(3) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
F815. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F8Atod. para. 15 wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(15)
16.—(1) Rhaid i CBC y De-ddwyrain sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—
(a)adolygu materion ariannol CBC y De-ddwyrain a chraffu arnynt;
(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y De-ddwyrain;
(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y De-ddwyrain ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;
(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y De-ddwyrain ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;
(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y De-ddwyrain;
(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y De-ddwyrain;
(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y De-ddwyrain.
(2) Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau—
(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,
(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth [F9o] aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac
[F10(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn aelod cyfetholedig,
(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-ddwyrain, neu
(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.]
F11(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).
(5) Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.
Diwygiadau Testunol
F9Gair yn Atod. para. 16(2)(b) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(16)(a)
F10Atod. para. 16(2)(c) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(16)(b)
F11Atod. para. 16(3) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(16)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.