Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 03/12/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021, RHAN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1. Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-ddwyrain gael eu cadeirio gan—
(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu
(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain—
(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a
(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).
(2) Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-ddwyrain—
(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu
(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.
(3) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.
(4) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—
(a)yr aelodau cyngor, a
(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.
(5) Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.
(6) Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.
(7) Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.
(8) Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.
(2) Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-ddwyrain gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain onid yw—
(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(i)rheoliad 17, neu
(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a
(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain—
(a)ni chaiff nifer y cyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio,
(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,
(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a
(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.
(2) Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.
(3) Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.
(2) Ond ni chaiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)y paragraff hwn.
(3) Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-ddwyrain y mae’n gymwys iddynt;
(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).
(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—
(a)aelodau CBC y De-ddwyrain, a
(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.
(5) Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i CBC y De-ddwyrain wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys